Michael Duff, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yw rheolwr newydd Huddersfield.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tan 2027.

Cafodd ei ddiswyddo gan Abertawe fis Rhagfyr y llynedd, ychydig fisoedd yn unig ar ôl cael ei benodi.

Mae e hefyd wedi rheoli Cheltenham a Barnsley.

Yn ystod ei yrfa ar y cae, chwaraeodd i Cheltenham a Burnley, gan gynrychioli Gogledd Iwerddon 24 o weithiau yng nghanol yr amddiffyn.

Symudodd i hyfforddi gyda thîm academi Burnley yn 2016, gan ddod yn rheolwr Cheltenham yn ddiweddarach.

Bu yno am bedair blynedd, gan ennill dyrchafiad fel pencampwyr yr Ail Adran a chael ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn cyn gorffen yn bymthegfed y tymor canlynol.

Cafodd ei benodi’n Brif Hyfforddwr Barnsley yn 2022, gan gyrraedd y gemau ail gyfle a cholli allan ar ddyrchafiad o drwch blewyn.

Ond ar ôl pedair buddugoliaeth o’r bron ar ôl cael ei benodi gan yr Elyrch, doedd perfformiadau’r tîm ddim yn ddigon da drwyddi draw, ac fe gafodd ei ddiswyddo.

Dywed Michael Duff ei fod e “wedi neidio ar y cyfle” i fod yn rheolwr Huddersfield.