Mae Kiran Carlson wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg.
Mae capten y tîm undydd wedi llofnodi cytundeb newydd tan ddiwedd tymor 2026.
Mae e wedi chwarae mewn 85 o gemau dosbarth cyntaf, gan sgorio 4,715 o rediadau a tharo deuddeg canred a 22 hanner canred.
Sgoriodd e 148 yn erbyn Sussex wrth i Forgannwg ennill eu gêm gyntaf y tymor hwn yn eu gêm ddiweddaraf.
Daeth ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton yn 2016, pan gipiodd e bum wiced fel troellwr – y ffigurau gorau gan droellwr yn eu gêm gyntaf i’r sir.
Fe hefyd oedd y chwaraewr ieuengaf yn hanes Morgannwg i daro canred yn y Bencampwriaeth, ac yntau’n ddeunaw oed a 119 diwrnod.
Daeth ei sgôr gorau erioed, 191, yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2017.
Daeth ei gêm ugain pelawd gyntaf yn 2017, ac fe dorrodd e’r record yn 2023 ar gyfer yr hanner canred cyflymaf yn y gystadleuaeth i Forgannwg, oddi ar bymtheg o belenni yn erbyn Sussex.
Roedd e’n gapten wrth i Forgannwg ennill Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, yn 2021, wrth daro 82 yn y rownd derfynol.
‘Wedi cyffroi’n lân’
“Dw wedi cyffroi’n lân o gael ymrwymo am ddwy flynedd arall i Forgannwg,” meddai Kiran Carlson.
“Hwn yw fy nghlwb cartref, a dw i wedi bod yn rhan o griced yng Nghymru er pan oeddwn i’n ddeuddeg oed.
“Rydyn ni’n adeiladu rhywbeth arbennig iawn yn y clwb, ac alla i ddim aros i fod yn rhan o hynny fel capten yn y gemau pêl wen ac fel chwaraewr yn y Bencampwriaeth.
“Diolch enfawr, fel pob amser, i’m teulu am eu cefnogaeth ac i’r clwb am ddangos eu ffydd ynof fi.”
Dywed y prif hyfforddwr Grant Bradburn fod Kiran Carlson wedi creu argraff arno fe y tymor hwn.
“Mae Kiran yn cael effaith bositif ar y cae ac oddi arno, a dw i mor falch fod Kiran wedi ymrwymo i fod yn rhan hanfodol o gyfnod newydd o lwyddiant i Glwb Criced Morgannwg,” meddai.
Dywed Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, fod y cytundeb newydd yn “newyddion gwych” i’r clwb.
“Fel un o arweinwyr ein grŵp ar y cae ac oddi arno, mae e’n rhan hanfodol o’n dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld e’n parhau ar ei daith criced gyda’r clwb.”