Middlesex yn curo Morgannwg o ddwy wiced

Byddai buddugoliaeth i Forgannwg wedi eu codi nhw i’r ail safle yn y Bencampwriaeth

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi’i enwi yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf eleni, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i Gaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Fe wnaeth Morgannwg guro Sussex, sydd ar frig yr Ail Adran, yn ei gêm ddiwethaf, a’r tro hwn maen nhw’n wynebu’r tîm sydd yn yr ail safle.

Gallai buddugoliaeth godi Morgannwg i’r ail safle hollbwysig hwnnw, wrth iddyn nhw lygadu dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae un pwynt yn gwahanu Middlesex a Morgannwg.

Does dim lle i Mir Hamza, y bowliwr cyflym llaw chwith, wrth i Labuschagne ddychwelyd i’r garfan, ochr yn ochr â’r chwaraewr tramor arall, Colin Ingram.

Mae Timm van der Gugten a Harry Podmore yn chwarae i’r ail dîm ar hyn o bryd, wrth i’r bowlwyr cyflym barhau i wella o anafiadau.

Gemau’r gorffennol

Gorffennodd y gêm gyfatebol ar gae Lord’s ar ddechrau’r tymor yn gyfartal, wrth i Sam Northeast sgorio 335 heb fod allan – y sgôr unigol gorau erioed yn hanes y sir.

Tarodd Colin Ingram 132 heb fod allan ben draw’r llain, wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 620 am dair, wrth i Middlesex ymateb gda 655, gyda Ryan Higgins yn taro 221.

Enillodd Middlesex y gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yng Nghaerdydd yn 2022, wrth i Toby Roland-Jones gipio wyth wiced, gyda John Simpson yn taro 104.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Middlesex yng Nghaerdydd ers 33 o flynyddoedd, pan gipiodd Steve Barwick a Mark Frost bedair wiced yr un yn y fuddugoliaeth o 129 o rediadau ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, T Bevan, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, C Ingram, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, J Davies, J de Caires, L du Plooy, S Eskinazi, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, S Robson, M Stoneman

18:20

Middlesex yn dal eu tir ac yn ennill o ddwy wiced.

17:20

… ac wythfed!

161. 52 i ennill.

17:13

Seithfed wiced wedi cwympo.

Middlesex 159 am saith. 54 arall i ennill.

16:56

Mark Stoneman allan am 63. Dyna’r wiced fawr!

Middlesex 158 am chwech. 55 i ennill.

16:45

Middlesex wedi colli pumed wiced. 61 arall i ennill.

15:44

TE

Middlesex 120 am bedair. 

93 arall i ennill – all Morgannwg gipio’r chwe wiced yn y sesiwn olaf?

15:36

Morgannwg wedi taro ’nôl â dwy wiced mewn pelawdau olynol. Un yr un i James Harris a Mason Crane.

Middlesex 114 am bedair. 99 arall i ennill.

15:20

Middlesex dros hanner ffordd tua’r nod.

107 am ddwy, wiced yr un i Andy Gorvin a Mason Crane.

13:32

CINIO

Morgannwg i gyd allan am 372. 

Middlesex yn cwrso 213 i ennill mewn dwy sesiwn.

11:58

Partneriaeth Zain Ul Hassan a Mason Crane wedi mynd y tu hwnt i 50 ar y bore olaf. Mae Morgannwg yn dal i frwydro’n galed, ac maen nhw ar y blaen o 186 erbyn hyn.

346 am saith.