Yn dilyn penwythnos o gemau cyn-derfynol y gemau ail gyfle Ewropeaidd, dau dîm sydd ar ôl yn y frwydr bellach.
Caernarfon, a drechodd Met Caerdydd gyda dwy gôl hwyr nos Wener (Mai 10), fydd yn chwarae yn y rownd derfynol brynhawn Sadwrn (Mai 18), a hynny yn erbyn Penybont wedi i hwythau ennill yn gyfforddus o 5-0 yn erbyn y Drenewydd.
Gyda Chaernarfon wedi gorffen mewn safle uwch yn y gynghrair, bydd ganddyn nhw’r fantais o chwarae ar eu cae eu hunain unwaith eto.
Yn debyg i’r gêm gyn-derfynol, gyda thros 1,000 o bobol yn gwylio, mae disgwyl torf a hanner unwaith eto yn y dref ar gyfer y gêm hollbwysig hon.
Yn ei dymor llawn cyntaf yn rheolwr ar y clwb, mae Richard Davies yn awyddus i arwain Caernarfon i Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ar ôl eu blas cyntaf ar Ewrop y flwyddyn ddiwethaf, bydd Penybont hefyd yn awchu i ennill y gemau ail gyfle a chael mynd dramor am yr eildro.
Caernarfon 2-0 Met Caerdydd
Roedd gan y ddau dîm bwynt i’w brofi wrth baratoi ar gyfer y rownd gyn-derfynol ar yr Oval, gyda’r ddau’n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf ers peth amser.
Gêm ddigon di-fflach oedd hi ar y cyfan, gyda’r naill dîm na’r llall yn methu â chael gafael gwirioneddol ar bethau.
Daeth Gruff John yn agos i Gaernarfon gyda’i beniad yn yr hanner cyntaf, ond cafodd ei rwystro gan arbediad da Alex Lang.
Hefyd yn yr hanner cyntaf, fe gafodd Met Caerdydd gyfle euraidd eu hunain, a hynny wrth i groesiad peryglus Eliot Evans wyro oddi ar ddarn anwastad o’r cwrt gan atal Tom Vincent rhag rhwydo i mewn i gôl wag.
Er yr ymddangosai’n gyfartal rhwng y ddau am y rhan fwyaf o’r gêm, roedd teimlad o hyd mai Caernarfon fyddai’n mynd â hi yn hwyr neu’n hwyrach.
Wedi dod yn agos eisoes yn yr ail hanner, wrth i gic rydd Sion Bradley daro’r postyn, a gyda’r cloc yn tician, fe sgoriodd Caernarfon wedi 86 munud, gydag ergyd bwerus Marc Williams yn canfod cefn y rhwyd.
Blodeuo ymhellach wnaeth hyder y tîm cartref ar ôl hynny, wrth i’r dorf eu gwthio tuag at y llinell derfyn.
Yn ystod amser ychwanegol, cafodd y fuddugoliaeth ei selio wrth i Siôn Bradley, seren y tymor i Gaernarfon, gwblhau rhediad arbennig gyda phàs well fyth i lwybr Adam Davies a’i gosododd yn daclus heibio’r golwr.
Y Drenewydd 0-5 Penybont
Cafodd y tîm yn y pedwerydd safle wers bêl-droed gan y tîm yn y seithfed safle yn y Drenewydd ddydd Sadwrn, wrth i Benybont reoli’r gêm o’r eiliad gyntaf un.
Heb os, tîm Rhys Griffiths sydd wedi ymddangos orau yn y gemau ail gyfle hyd yma, wrth i’w rhediad da fynd yn ei flaen. Enillon nhw chwech allan o’u saith gêm ddiwethaf, a hynny heb golli nac ildio’r un gôl.
Wnaeth yr ymwelwyr ddim gwastraffu eiliad yn yr haul tanbaid, ac o fewn pum munud rhoddodd Gabriel Kircough ei dîm ar y blaen.
Gan godi’n uwch na neb ar y postyn pellaf, ychwanegodd Chris Venables un arall ar ôl 17 munud, gyda’r ymosodwr 38 oed yn ei phenio i mewn oddi ar y trawst.
Wedi hanner awr, roedd y gêm fwy neu lai ar ben, wrth i Venables ymateb yn sydyn i bêl rydd yn y cwrt a sgorio’i ail o’r gêm a’i ugeinfed o’r tymor. Yn ei dymor cyntaf â’r clwb, ni allai fod wedi dymuno cael dechrau gwell.
Er ei oedran, mae’n parhau’r un mor beryglus ag erioed, a’i feddwl chwim yn dal i gael y gorau ar lawer o amddiffynwyr y gynghrair.
Ar ddechrau’r ail hanner, fe gafodd y Drenewydd eu cyfnod gorau o’r prynhawn. Roedden nhw yn amlwg wedi cael pryd o dafod gan eu rheolwr Scott Ruscoe hanner amser.
Doedd y gwelliant yn eu perfformiad ddim wedi arwain at unrhyw newid sylweddol o ran y gêm chwaith. Cipiwyd y llygedyn lleiaf, olaf, o obaith oedd ganddyn nhw oddi arnyn nhw pan sgoriodd Gabriel Kircough unwaith eto i Benybont yn dilyn symudiad da o chwarae.
Oddeutu chwarter awr cyn y chwiban olaf, o’i hanner ei hun, fe gariodd Mark Little y bêl yr holl ffordd i’r cwrt cosbi cyn canfod cefn y rhwyd yn gampus am y bumed.
Dyma’i gôl gyntaf i’r clwb, ac am gôl oedd hi hefyd, wrth iddi gwblhau prynhawn gwych i Benybont.
Roedd yn berfformiad canmoladwy dros ben, ac yn un fyddai’n sicr wedi rhoi hyd yn oed mwy o hyder iddyn nhw nawr wrth iddyn nhw droi eu golygon tuag at y rownd derfynol yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.