Mae tref Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn gartref i Glwb Pêl-droed y Daffodils (neu The Daffs) ac yn ganolbwynt i lawer o bêl-droed yn ardal canolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd, dw i wedi treulio sawl awr yn pwyllgora un ai yn Neuadd y Dref neu yn y Clwb ei hun. Mewn sawl ffordd, dyma gartref ysbrydol Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru (CWFA).
Dyma ble ges i wybod, yng ngwanwyn 2012, fy mod i a Russell Hughes-Pickering yn wynebu proses ddisgyblu am gynnal twrnamaint pêl-droed ieuenctid pan oedd y ddau ohonom yn swyddogion Cynghrair Pêl-droed Ieuenctid Aberystwyth a’r Cylch. Cafodd y ddirwy a’r gwaharddiad sylw mawr gan Radio 5 a’r Daily Mail o bob man a deallais, ryw flwyddyn yn ddiweddarach, fod y colofnydd Beca Brown wedi mynegi ‘barn’ ar y mater yng nghylchgrawn Barn!
Beth bynnag am hynny, er mai yn Llanidloes ges i fy hysbysu o fwriad y CWFA i fynd ati i ddilyn y broses ddisgyblu, bydda i dal wrth fy modd yn mynd draw i Victoria Park i wylio gemau Cymru North a gwahanol gemau cwpan yn y stadiwm. Mae’n glwb sydd â thraddodiad – yn glwb gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru yn 1881, yn enillwyr Cynghrair Canolbarth Cymru droeon, ac aelodau gwreiddiol Uwch-gynghrair Cymru ym 1992.
Er mai am dymor yn unig y bu’r Clwb yn haen uchaf pêl-droed Cymru, mae Tref Llanidloes wedi parhau i fod yn dîm sy’n ennyn parch ym mhob cwr o Gymru ac sy’n denu torfeydd o ryw 200 ar gyfer eu gemau cartref – hyd yn oed y tymor hwn ble mae’r canlyniadau wedi bod yn siomedig.
Cafodd y tîm dymhorau ar y dibyn yn y Cymru North yn ystod y tymhorau diwethaf, gan orffen yn y deuddegfed safle (allan o 16) y llynedd a’r un safle y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, y tymor hwn gorffennodd y clwb ar waelod y gynghrair a syrthio i Haen 3 yng nghynghreiriau Ardal, gan ennill dwy gêm yn unig yn y gynghrair – a’r rheini gartref yn erbyn Llandudno ac oddi cartref yn erbyn Porthmadog.
Yn dorcalonnus i’r clwb, bu farw Dai Phillips, cyn-athro yn ysgol uwchradd y dref, a chyn-gapten y clwb a serennodd ar yr asgell ac fel blaenwr yn y 1960au, gan arwain y tîm i fuddugoliaethau cofiadwy yng Nghwpan y Gynghrair. Bu iddo’n ddiweddarach gael cyfnod llwyddiannus yn rheolwr y Clwb gan ennill Cynghrair Canolbarth Cymru ddwywaith a hefyd ennill Cwpan Sir Drefaldwyn.
Bydd cyfle i geisio dod dros siom disgyn o’r Cymru North ar brynhawn Sadwrn (Mai 18), wrth i dîm y Cennin Pedr wynebu Kerry FC yn ffeinal Cwpan Sir Drefaldwyn 2024 ar gae’r Rec yng Nghaersws (cic gyntaf am 5yp), ac yna bydd cyfle i ymlacio (i’r rhai sy’n gwylio!) wrth i’r clwb gynnal gêm 24 awr ar gyfer elusennau lleol, gyda’r gic gyntaf am 5yp ar ddydd Gwener, Mai 24, a’r chwiban olaf am 5yp y diwrnod canlynol!
Mae holl elw’r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu gan y cyn-gapten Matthew Savage, ar gyfer y timau ieuenctid a’r Gymdeithas Strôc, gyda’r chwaraewyr ifainc hefyd wedi nodi eu hawydd i gyfrannu at y banc bwyd lleol. Bydd pobol Llani yn y ddwy gêm, gyda sawl un yn teithio dros Bumlumon i gefnogi’r rheolwr Andy Evans – un o gewri Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.
Mae’r gymuned yn glos ac, er siom Tymor 2023-2024, bydd y Clwb yn ôl yn gryfach.