Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi lleddfu’r pryderon fod Gareth Bale wedi cael anaf yn ystod y gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn y Ffindir neithiwr (nos Fercher, Medi 1).

Cafodd yr ymosodwr ei weld yn dal ei ffêr ar ddiwedd y gêm, ac yntau ond wedi chwarae saith munud fel eilydd wrth i Gymru edrych tua’r gêm ragbrofol yn erbyn Belarws yn Kazan nos Sul (Medi 5).

Dywed Page fod Bale “wedi cael cic” yn ei ffêr, ond ei fod e’n “hollol iawn”.

Yn y cyfamser, mae’n dweud bod Ben Davies angen munudau cyn y gemau rhagbrofol, ond nad oedd diben cymryd risg o safbwynt Gareth Bale am fwy na’r amser roedd e ar y cae.

Dywed Page nad oedd e am daflu Daniel James ar y cae ar ôl rhai diwrnodau prysur wrth iddo symud o Manchester United i Leeds, ac nad oedd e chwaith am gymryd risg o safbwynt Joe Allen gyda nifer o chwaraewyr allan o’r garfan eisoes am wahanol resymau.

Gêm gyfeillgar gyfartal i Gymru

0-0 rhwng Cymru a’r Ffindir yn Helsinki