Fe fydd tlws Cwpan Royal London yn mynd ar daith i sawl lle yn y de dros yr wythnos nesaf, wrth i dîm criced Morgannwg ddathlu eu llwyddiant mawr cyntaf ers 17 o flynyddoedd.

Fe wnaethon nhw lwyddo i gael eu dwylo ar y tlws yn Trent Bridge fis diwethaf wrth guro Durham yn y rownd derfynol, ond maen nhw nawr yn cynnig cyfle i’r cefnogwyr gael eu dwylo nhw ar y tlws.

Mae rhai o’r lleoliadau wedi’u cyhoeddi eisoes, ac mae disgwyl i ragor gael eu hychwanegu dros y dyddiau nesaf.

Bydd y daith yn dechrau yng Nghlwb Criced Y Bontfaen fory (dydd Gwener, Medi 3), cyn symud i Gaerdydd, clwb y capten Kiran Carlson, ddydd Sadwrn (Medi 4) ac fe fydd e yno i gyfarch y cefnogwyr o 11.30yb.

Bydd y tlws wedyn yn teithio i Glwb Criced Pontarddulais ger Abertawe ddydd Sul (Medi 5) am 1 o’r gloch.

Yr wythnos nesaf, fe fydd yn mynd i Glwb Criced Casnewydd ddydd Sadwrn (Medi 11) ac yn dychwelyd i’r siop yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd ddydd Sul (Medi 12).

‘Dathlu llwyddiant ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd’

“Roedd ennill Cwpan Royal London yn achlysur mawr i’r clwb, ac roedd yn fwy arbennig fyth gan ei fod wedi dod yn ystod ein canfed blwyddyn yn sir dosbarth cyntaf,” meddai Mark Frost, Rheolwr Cymuned a Datblygu Morgannwg.

“Bydd taith y tlws yn galluogi ein cefnogwyr i ddathlu’r llwyddiant yn Trent Bridge a chofio’r hyn sydd eisoes wedi dod yn un o’r buddugoliaethau enwocaf yn ein hanes.

“Gobeithio y bydd cynifer o gefnogwyr â phosib yn dod allan ac yn ymuno â ni wrth i ni fynd â’r tlws i glybiau a chymunedau ledled de Cymru gan obeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gricedwyr a chefnogwyr.”