Bydd blaenasgellwr Caerdydd a Chymru, James Botham, yn colli misoedd agoriadol y tymor.

Mae’n annhebygol y bydd yn chwarae unrhyw ran yng nghyfres ryngwladol yr Hydref i Gymru.

Daw hyn ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Dychwelyd

Mae’r chwaraewr 23 oed yn gobeithio dychwelyd i chwarae ym mis Tachwedd gyda Chymru’n herio Seland Newydd ar 30 Hydref.

Yna byddan nhw’n chwarae yn erbyn De Affrica, Fiji ac Awstralia.

Mae disgwyl i ddeuawd y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Josh Adams a Josh Navidi ddychwelyd i hyfforddi gyda Chaerdydd mewn pythefnos.

Bydd Cymru yn brin yn safle’r blaenasgellwr yn yr Hydref, gyda Justin Tipuric eisoes allan gydag anaf.