Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi cyn-brop Cymru, Ceri Jones, yn Brif Hyfforddwr newydd Rygbi Gogledd Cymru (RGC).
Yn fab fferm o gyffiniau Casnewydd, fe chwaraeodd ddwywaith tros Gymru yn 2007.
Ar ôl cychwyn ei yrfa yng Nghasnewydd, symudodd i chwarae i’r Harlecwiniaid yn Llundain yn 2003, gan chwarae 230 o gemau a sgorio 24 cais.
Yn 2011 symudodd eto i chwarae i dîm Worcester Warriors cyn gorfod rhoi’r gorau iddi yn dilyn anaf difrifol i’w ffêr.
Ymunodd â thîm hyfforddi Caerwrangon gan arbenigo mewn hyfforddi’r sgrym cyn symud yn ôl i fro ei febyd i ymuno a’r Dreigiau, yn wreiddiol fel hyfforddwr y blaenwyr cyn cymryd y cyfrifoldeb tros fod yn brif hyfforddwr y rhanbarth dros dro.
“Rydw i wrth fy modd bod yma ac yn methu aros cyn dechrau gweithio o ddifrif gyda’r bechgyn,” meddai’r hyfforddwr 44 oed.
“Mae potensial RGC yn aruthrol. Mae’n ardal enfawr a’r niferoedd o bobol sy’n chwarae rygbi yn prysur dyfu.
“Wrth gyfuno hyn a’r cyfleusterau penigamp sydd i’w cael ym Mharc Eirias [ym Mae Colwyn], waeth i ni ddweud bod gogledd Cymru yn rhanbarth cyfa’ ym mhob peth ond enw.
“Rwyf eisoes wedi bachu’r cyfle i wylio’r chwaraewyr yn ymarfer ac mae’r tîm yn berwi o dalent.
“Mae’r garfan yn ifanc a fy mwriad i yw cryfhau’r academi er mwyn hwyluso llwybr i chwaraewyr lleol gynrychioli RGC, y timau cenedlaethol yn ôl oedran a’r tîm cenedlaethol llawn maes o law.”
“Datblygu chwaraewyr safonol”
Ychwanegodd Pennaeth Cyfranogi Undeb Rygbi Cymru, Geraint John:
“Diben y swydd ydi cefnogi datblygiad chwaraewyr o 16 oed ac sydd yn yr academi rhanbarthol.
“Mae’r apwyntiad yn sicrhau gwell dilyniant rhwng yr academi â thîm cyntaf RGC.
“Mae nifer o hyfforddwyr yr academi yn chwarae i RGC a bydd y ffaith mai Ceri yw’r prif hyfforddwr ar y tîm yn synhwyrol.
“Mae gogledd Cymru yn rhanbarth datblygu bwysig i Undeb Rygbi Cymru a’n bwriad yw datblygu’r gêm ar y maes chwarae ac oddi arno.
“Rydym yn ffodus cael rhywun o safon Ceri i ddilyn yn ôl traed cyn-hyfforddwyr megis Phil Davies a Mark Jones.
“Mae Ceri eisoes wedi datblygu chwaraewyr gyda’r Dreigiau ac yng Nghaerwrangon a bydd ei apwyntiad yn gaffaeliad i ddenu chwaraewyr o bob cwr o ogledd Cymru.
“Bydd yn siŵr o ddenu hyfforddwyr hefyd.
“Mae’n gyfarwydd â’r Uwch Adran a’r timau sy’n chwarae ynddi ar ôl cael cryn lwyddiant gyda Glyn Ebwy.
“Rydym yn hyderus y bydd yn medru datblygu chwaraewyr safonol o fewn yr Uwch Adran ar ran Gogledd Cymru.”