Mae clwb pêl-droed Casnewydd wedi eu taro gan nifer o achosion o Covid-19.

Fe gafodd pedwar chwaraewr ganlyniad prawf positif, ac mae tri chwaraewr arall yn gorfod hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad agos.

Mae’n debyg bod rhai chwaraewyr yn gorfod hunanynysu gan eu bod wedi penderfynu peidio â chael y brechlyn.

Daeth yr achosion diweddaraf yn dilyn colled Casnewydd yn erbyn Salford ddydd Sadwrn, 28 Awst.

“Awn ymlaen”

Roedd y rheolwr, Michael Flynn, wedi gorfod methu tair gêm yn ddiweddar ar ôl profi’n bositif, ond doedd hynny ddim yn gysylltiedig efo’r achosion newydd.

Mae Flynn yn bendant fydd y gêm yn erbyn Leyton Orient ddydd Sadwrn, 4 Medi, yn mynd yn ei blaen.

“Rydyn ni’n gallu dewis tîm llawn,” meddai Flynn.

“Dydw i’n sicr ddim yn trio manteisio ar hyn.

“Mae yna 18 neu 19 chwaraewr ar gael, felly awn ymlaen.”

Cyfrifoldeb y chwaraewyr

Wrth drafod yr un neu ddau o chwaraewyr sydd heb dderbyn y brechlyn – dywedodd Flynn nad oedd yn hapus â’u penderfyniad nhw.

“Mae hynny’n gyfrifoldeb, neu’n benderfyniad mae’n rhaid iddyn nhw fyw ag o,” meddai.

“Maen nhw wedi penderfynu peidio cael y brechlyn felly pob tro maen nhw’n dod i gysylltiad agos [â rhywun sydd wedi cael prawf positif], mae’n rhaid iddyn nhw fethu 10 diwrnod o bêl-droed.

“Dydw i ddim yn hapus â hynny, ond mae’n rhaid i ni adael i’r chwaraewyr wneud eu penderfyniadau eu hunain.”