Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r batiwr Eddie Byrom o Wlad yr Haf.
Bydd y chwaraewr 24 oed, sy’n enedigol o Zimbabwe, yn ymuno â’r sir ar fenthyg am weddill y tymor, cyn symud yn barhaol ar gytundeb dwy flynedd.
Mae e wedi chwarae ym mhob fformat, gan sgorio mwy na 1,500 o rediadau, gan gynnwys tri chanred dosbarth cyntaf, gydag un ohonyn nhw yn erbyn Essex yn rownd derfynol Tlws Bob Willis yn Lord’s y tymor diwethaf.
Bydd e’n ymuno unwaith eto â Matthew Maynard, ei brif hyfforddwr am gyfnod yng Ngwlad yr Haf.
“Dw i wedi cyffroi o gael ymuno â Morgannwg a chael dechrau pennod newydd yn fy ngyrfa,” meddai Byrom.
“Bydd symud yn rhoi’r cyfle i fi brofi amgylchfyd newydd a chysylltu unwaith eto â Matt Maynard, a dw i’n dod ymlaen yn dda â fe.
“Mae gan Forgannwg garfan gref a nifer o chwaraewyr ifainc da iawn, a gobeithio y galla i helpu i symud y clwb yn ei flaen ac i adeiladu ar ei llwyddiant diweddar.”
‘Batiwr ifanc dawnus dros ben’
“Mae Eddie yn ychwanegiad gwych i’n carfan ni, ac rydyn ni wrth ein boddau o gael ei groesawu fe i Forgannwg,” meddai’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace.
“Mae e’n fatiwr ifanc dawnus dros ben sy’n gallu chwarae ym mhob fformat ac fe fydd e’n cynnig cystadleuaeth am lefydd ar frig y rhestr.
“Edrychwn ymlaen at gydweithio â fe dros y blynyddoedd nesaf a gweld ei gêm yn datblygu a ffynnu.”