Mae Rubin Colwill yn dweud ei fod yn disgwyl “gêm anodd” yn erbyn Belarws yn ymgyrch cynhwyso Cwpan y Byd Cymru.

Bydd Cymru’n gorfod chwarae’r gemau gyda charfan lai na’r arfer, gan fod anafiadau, achosion Covid-19 a phroblemau gyda fisas wedi golygu nad yw chwaraewyr megis Aaron Ramsey, Kieffer Moore, Joe Rodon a David Brooks ar gael.

Mae Rubin Colwill, sy’n chwaraewr canol cae, wedi dod yn ei flaen yn gyflym yn ei yrfa bêl-droed hyd yma.

Fe chwaraeodd i Gaerdydd am y tro cyntaf ym mis Chwefror, fe gychwynodd ei gêm gyntaf ym mis Ebrill cyn cael ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros.

Sut y mae wedi ymateb i flwyddyn mor llwyddiannus?

“Mae’r holl beth wedi bod yn wallgof a dweud y gwir,” meddai.

“Mae popeth wedi digwydd mor gyflym, mae jyst yn fater o ymdopi gyda phopeth sydd wedi digwydd, gwthio ymlaen a gwella.

“Dw i wedi bod yn edrych ar rai o’r chwaraewyr hyn yn chwarae ers dw i’n fachgen a rŵan dw i’n hyfforddi gyda nhw ac yn chwarae gydan nhw, mae’n anhygoel.

“Rwyt ti’n dysgu gymaint bob dydd yn chwarae gyda’r mathau hyn o chwaraewyr, dw i wedi cael lot o gyngor ganddyn nhw.”

Cymru wedi “gwneud yn dda yn erbyn y Ffindir”

Cyfartal oedd hi mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir ddydd Mercher (1 Medi).

Roedd yn dîm amhrofiadol o ganlyniad i’r chwaraewyr oedd ddim ar gael.

Cafodd Rubin Colwill gyfle da tuag at ddiwedd y gêm, ond ni lwyddodd i sgorio.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud yn dda a dweud y gwir,” meddai Rubin Colwill.

“Roedd o’n dîm ifanc iawn, a dw i’n meddwl ein bod ni wedi cadw’r bêl yn dda, ei symud hi o gwmpas a llwyddo i greu ambell i gyfle da.

“O ystyried ein bod ni’n dîm mor ifanc, rydan ni’n hapus iawn gyda’r perfformiad.”

“Gêm anodd” yn wynebu Cymru

Wrth edrych ymlaen at herio Belarws ddydd Sul (5 Medi), mae Rubin Colwill yn rhagweld “gêm anodd”.

“Mae pob gêm mor bwysig rŵan ac rwyt ti eisiau cael y mwyaf o bwyntiau allan o bob un ag sy’n bosib,” meddai.

“Mae Belarus yn dîm da, maen nhw’n gweithio’n galed dros ei gilydd a bydd hi’n gêm anodd.

“Bydd yn rhaid i ni weithio’r un mor galed â nhw a chadw at y ffordd rydan ni eisiau chwarae pêl-droed.

“Os wnawn ni hynny, efo lwc fe gawn ni’r canlyniad rydan ni eisiau.”