Dywed Gareth Bale y byddai’n cefnogi ei chwaraewyr i gerdded oddi ar y cae yn wyneb cam-drin hiliol.

A galwodd capten Cymru am wahardd troseddwyr mynych o gystadleuthau pêl-droed rhyngwladol.

Bydd Bale yn arwain Cymru mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws yfory (ddydd Sul).

Ddoe, roedd yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg ynglŷn a’r gêm pan ofynwyd iddo am ei farn ar ôl i chwaraewyr Lloegr, Jude Bellingham a Raheem Sterling gael eu cam-drin yn hiliol a’u targedu gyda siantiau mwnci yn Hwngari.

Mae FIFA wedi agor achos disgyblu mewn perthynas â gêm ragbrofol Cwpan y Byd Lloegr yn Budapest ddydd Iau, gyda Bellingham, chwaraewr canol cae Borussia Dortmund,  yn galw am “gosbau priodol”.

Targedu

Awgrymwyd y gallai chwaraewyr gerdded oddi ar y cae yn y dyfodol os na fydd yr awdurdodau’n mynd i’r afael ag ymddygiad hiliol a dywedodd Bale: “Os na fydd pethau’n cael eu datrys bydd hynny’n digwydd.

“Pe byddem yn teimlo nad oeddem yn cael ein hamddiffyn ac yn cael ein trin y ffordd gywir gan y cyrff llywodraethu, a’r unig ffordd o gael yr ymateb gorau oedd cerdded i ffwrdd, byddwn yn barod ar ei gyfer.

“Mae gêmau rhagbrofol pêl-droed yn bwysig ond mae’r materion hyn yn dod yn bwysicach ac yn uwch na phêl-droed.

“Dydyn ni ddim wedi ei drafod. Ond byddem yn cael y drafodaeth honno pe bai’n digwydd a byddem i gyd yn cytuno arno gan ein bod yn dîm sy’n glynu at ei gilydd ac os oes unrhyw un yn cael ei dargedu byddwn yn gwneud y peth iawn.”

Ystumiau

Mae Cymru eu hunain wedi dod ar draws hiliaeth ar eu teithiau i Ddwyrain Ewrop yn y gorffennol, a dywedodd Bale y dylai troseddwyr mynych gael eu gwahardd rhag cystadlu’n rhyngwladol.

Dywedodd: “Dydw i ddim yn gwybod pa mor ddifrifol yw beth i’w wneud ond y peth hawsaf yw . . . a ydych yn gwahardd y cefnogwyr o’r stadiwm neu os ydynt yn parhau i’w wneud dro ar ôl tro, sy’n ymddangos fel yr hyn sy’n digwydd, yna byddwch yn gwahardd y wlad o’r gystadleuaeth.

“Os yw’r wlad honno’n dal i wneud yr ystumiau erchyll hyn, efallai mai’r peth gorau i’w wneud yw cael gwared â nhw, rhoi gwaharddiad arnyn nhw a gobeithio y byddan nhw’n dysgu eu gwers felly.

“Mae’n rhwystredig. Dydwi ddim yn gwybod pam y maent yn lansio’r ymchwiliadau hyn sy’n cymryd cyhyd pan fydd yn amlwg i’w weld. Dylid cymryd camau i’w atal.”

Sancsiynau

Mae Cymru’n ailddechrau eu hymgyrch ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn Rwsia gan nad oedd carfan Robert Page yn gallu mynd i Belarws mewn awyren oherwydd sancsiynau yn erbyn llywodraeth Minsk.

Mae dewis lleoliad UEFA wedi bod yn ddadleuol gyda chwaraewyr sydd angen trosglwyddo gwybodaeth bersonol i sicrhau visas i gael mynediad i Rwsia.

Dywedodd Bale, a fydd yn ennill ei 98fed cap dros Gymru yn erbyn Belarws: “Dyw e ddim yn ddelfrydol, ond roedd yn rhaid i ni wneud hynny. Nid Rwsia oedd y lleoliad niwtral gorau.

“Rwy’n synnu nad Wembley oedd y lleoliad niwtral, a bod yn onest. Mae popeth arall i’w weld yno! Ond mae wedi’i wneud yn awr ac mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen ag o.

“Byddai pawb yn dweud celwyddau wrthych chi pe bydden nhw’n dweud nad oedden nhw eisiau chwarae mewn Cwpan y Byd dros eu gwlad.

“Rydym yng nghanol ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd nawr ac rydym i gyd wedi paratoi’n llawn yn feddyliol ac yn gorfforol i geisio gwneud hynny.”