Mae’r wên yn dweud y cyfan… dyma rai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd yn dathlu ennill cystadleuaeth Côr SA Blwyddyn 7, 8 a 9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Maldwyn, sy’n dirwyn i ben heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 1).

Dyma’r Eisteddfod a welodd tua 100,454 o blant yn cofrestru i gystadlu – y tro cyntaf yn hanes y mudiad i’r ffigwr gyrraedd dros 100,000.

Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr i gyd!

Y cyffro yn Llwyfan y Cyfrwy wrth aros am ganlyniadau