Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, yn galw am eglurder gan Bwyllgor Gwaith Llafur ynghylch sefyllfa Diane Abbott ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Mae’r Blaid Lafur yn genedlaethol wedi bod o dan bwysau ynglŷn â’r ffordd maen nhw’n dewis ymgeiswyr.
Daeth cadarnhad heddiw fod ymgeiswyr o Lundain wedi’u dewis i sefyll yn etholaethau Gorllewin Abertawe a Gorllewin Caerdydd.
Ond mae Faiza Shaheen a Beth Winter ymhlith aelodau’r blaid sydd wedi cwyno am y ffordd mae’r Blaid wedi eu “gwahardd” nhw rhag sefyll.
“Yn ei ymgyrch arweinyddol, addawodd [Keir] Starmer y byddai’n stopio gosod ymgeiswyr,” meddai Beth Winter, sydd hefyd wedi cwyno am bleidlais fewnol “annemocrataidd”.
“Mae wedi torri’r addewid hwnnw.
“Mae gosod ymgeiswyr yng Ngorllewin Caerdydd a Gorllewin Abertawe yn torri aelodau allan o’r broses.
“Mae o’n sarhad i aelodau’r Blaid Lafur, yn sarhad i Gymru, ac yn amarch i ddemocratiaeth.”
‘Enghreifftiau cwbl wahanol i’w gilydd’
Wrth siarad â golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, dywedodd Vaughan Gething fod etholiadau mewnol, (hynny yw, ethol Gerald Jones o flaen Beth Winter), yn “broses ddemocrataidd”.
“Mae enghreifftiau Beth Winter ac Diane Abbott yn gwbl wahanol,” meddai.
“Oherwydd bod y Ceidwadwyr wedi newid yr etholaethau, a thrwy hynny rydym wedi colli wyth Aelod Seneddol yng Nghymru, roedd rhaid mynd ac ailddewis pobol.
“Cafodd aelodau bleidlais, felly roedd e’n ddemocrataidd – un aelod, un bleidlais.
“Roedd hi’n broses ddemocrataidd.
“Dw i’n deall pam fod Beth yn drist nad hi yw dewis aelodau lleol, ond dyna beth ddigwyddodd. Nhw oedd wedi dewis.”
Mae Keir Starmer bellach wedi dweud bod Diane Abbott “yn rhydd” i sefyll, ond fod y penderfyniad terfynol yn nwylo Pwyllgor Gwaith Llafur.
Dywed Vaughan Gething ei fod yn credu bod gan bobol ar stepen y drws fwy o ddiddordeb yn yr “argyfwng costau byw”, a bod yna “gryn awydd am newid.”
“Dw i’n credu gyda Diane Abbott fod rhaid cael eglurder a fydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn cadarnhau’r holl ystod o ymgeiswyr pan fyddan nhw’n cyfarfod,” meddai.
Dywed nad yw’n gwybod “dim byd” ynghylch a gafodd y penderfyniad ynghylch ymgeiswyr ei wneud ym mis Rhagfyr, fel sydd wedi cael ei adrodd yn y wasg.
“Dw i ddim eisiau gwneud sylw am yr adroddiadau dw i wedi’u gweld,” meddai.
“Beth sy’n glir ydy bod Diane Abbott wedi ymddiheuro.
“Mae’n glir ei bod hi’n ôl yn y Blaid Lafur Seneddol (PLP), a bydd rhaid cael penderfyniad ynghylch pwy fydd pob ymgeisydd yn ystod y dyddiau nesaf, a gorau po gyntaf y bydd eglurder ar hyn.”
‘Llafur yn ganolog ddim yn deall dim am Gymru’
Yn y cyfamser, mae Rhun ap Iorwerth yn dweud nad yw Llafur “yn deall dim am Gymru”.
Bu’n siarad â golwg360 ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd, lle bu’n beirniadu cystadlaethau siarad cyhoeddus.
“Dydyn nhw’n addo dim i Gymru, ac yn cymryd Cymru’n ganiataol, ac maen nhw’n anwybyddu’r anghenion,” meddai.
“Mae gennym ni Brif Weinidog Llafur mewn argyfwng yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol lle mae Llafur yn gobeithio ennill grym ar lefel y Deyrnas Unedig, a dydy arweinydd Llafur, y Prif Weinidog mae’n debyg mewn ychydig o fisoedd, ddim fatha tasa fo wedi deall beth sy’n mynd ymlaen yma yng Nghymru.”
“Ac mae hynny’n drosiad am agwedd Llafur tuag at Gymru, ac yn rhan fawr o’n dadl ni yn yr etholiad yma, sef dydy Llafur yn ganolog ddim yn deall dim am Gymru.
“Dydyn nhw’n addo dim i Gymru, ac yn cymryd Cymru’n ganiataol, ac maen nhw’n anwybyddu’r anghenion.”
Mae Vaughan Gething hefyd wedi ailadrodd wrth golwg360 nad oedd e wedi torri unrhyw reolau na’r gyfraith, a’i fod yn gobeithio “tynnu llinell” o dan y cyfan a pharhau i “arwain y Llywodraeth a rhedeg Cymru”.
Siarad cyhoeddus
Enillodd tîm ‘Tywi’ o Ddwyrain Myrddin y wobr 14-25 oed, a thîm Blwyddyn 10 y gystadleuaeth dan 19 oed Bro Teifi.
Wrth siarad am y fraint o gael beirniadu ar siaradwyr cyhoeddus y dyfodol, dywedodd ei fod “wedi mwynhau yn arw iawn”.
“Mi oedd o’n doriad neis o ymgyrchu etholiadol, a hefyd cael cyfle i ddod i Steddfod yr Urdd,” meddai.
“Bysa’r wythnos yma wedi gallu pasio yn sydyn iawn yng nghanol yr etholiad heb ddod i’r Steddfod, ond dwi’n falch fy mod i wedi gallu bod yma.”
A oedd yna sêr y dyfodol yn cystadlu, tybed?
“Oedd, lot ohonyn nhw!
“Mi oedd yna safon ofnadwy o uchel wrth wrando ar bron i hanner cant yn cystadlu, a chriw ifanc hyderus yn siarad efo barn gref ar bethau.
“Fi oedd wedi rhoi pymtheg testun iddyn nhw ddewis ohonyn nhw, hynny yw pynciau bach oedd yn rhannu barn.
“Yn llythrennol, mi oedden nhw ond yn cael deng munud o rybudd o flaen llaw, a phenderfynu wedyn sut i ymateb iddyn nhw.
“Na, doedd o ddim yn hawdd iddyn nhw, ond mi wnes i fwynhau.”