Un sy’n falch o weld yr haul wedi dychwelyd i Feifod ydy’r prifardd Meirion McIntyre Huws.
Ers tair blynedd, mae’r bardd wedi bod yn rhedeg cwmni sy’n gosod paneli solar, ac mae wedi bod â stondin ar Faes yr Urdd gyda chwmni Blake Jones, cwmni lleol sydd ag arbenigedd ar osod paneli.
Mae gan Meirion McIntyre Huws, sy’n rhedeg y cwmni gyda’i wraig, radd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol a chefndir yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac yn adeiladu siediau.
Dechreuodd y cwmni yn y canolbarth, ond bellach maen nhw’n gweithio mwy a mwy yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
“Mae gennym ni fel cwmni arbenigedd ar lot o wahanol elfennau o baneli solar, ac mae gan Blake Jones a’i gwmni arbenigedd technegol iawn wrth osod ac rydyn ni’n cydweithio,” meddai wrth golwg360.
“[Rydyn ni’n] gosod paneli solar a rhyw bethau fel batris a phethau gwefru ceir i fusnesau a chartrefi.
“Barddoni ydy fy mhethau i wedi bod ers blynyddoedd, ond mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn peirianneg sifil a strwythurol ac roeddwn i’n cynllunio siediau ers talwm, gweithio i’r Bwrdd Dŵr gyda chronfeydd dŵr, ac mae gen i gefndir technegol a pheirianyddol iawn, felly mae hynny’n ddefnyddiol iawn rŵan.
“Mae o’n ryw weddu. Dw i’n gwneud lot efo cyfrifiaduron erioed, ac rydyn ni’n gwneud lot efo rhyw feddalwedd efo’r solar yma, o ran effeithlonrwydd ac ati.
“Mae o i gyd yn dod at ei gilydd, a dw i’n mwynhau’n arw.”
‘Mwy na phenderfyniad moesol’
Erbyn hyn, mae mwy a mwy o resymau dros fuddsoddi mewn paneli solar ac ynni gwyrdd, meddai Meirion McIntyre Huws.
Roedd teimlad bod dewis paneli solar yn benderfyniad moesol am gyfnod, ond erbyn hyn mae’n mynd tu hwnt i hynny.
“Mae ynni gwyrdd wedi bod yn rhywbeth sy’n sleifio i’n bywydau ni yn bob man, mae o’n rhywbeth moesol wedi bod dw i’n meddwl am hir,” meddai, gan ddweud eu bod nhw wedi cael wythnos brysur yn cynghori a thrafod.
“Mae rhywun yn teimlo ‘wnawn ni leihau tanwyddau ffosil a mynd yn fwy am ffynhonellau gwyrdd’; rhyw benderfyniad moesol oedd o i lawer o bobol.
“Ond mae o’n mynd yn benderfyniad ariannol rŵan efo prisiau trydan yn codi; mae pobol wedi mynd i edrych arno fel opsiwn arall sy’n arbed arian, nid arbed y blaned.
“Oherwydd hynny, mae yna fwyfwy o bobol yn mynd am hyn.
“Cwmnïau, ffermwyr llaeth, fydd yna bwysau arnyn nhw rŵan yn araf deg gan bobol sy’n prynu llaeth i fod yn fwy gwyrdd.
“Mae’r cwsmer eisiau i’w llefrith nhw ddod o fferm werdd.
“Mae yna bwysau, felly, ac mae hynny at ei gilydd wedi cynyddu’r diddordeb mewn cael solar ar dai.”
Erbyn hyn, mae mwy o ddiddordeb ymysg cwmnïau a mudiadau cydweithredol cymunedol hefyd, gyda grwpiau fel Ynni Ogwen ym Methesda ac Ynni Twrog ym Meirionnydd ymysg y rhai sy’n cynhyrchu ynni gwyrdd.
“Cymunedau’n dod at ei gilydd a rhannu eu to i gael un ardal cynhyrchu trydan, a dod i gytundeb efo’r cwmni trydan wedyn fel bod pawb sy’n byw yn y pentref yn cael trydan yn rhad, achos mae’r ardal yna’n gwerthu’n rhad i’r Grid.
“Ti’n gweld lot o gynlluniau ynni dŵr, ynni haul…
“Mae solar yn mynd yn fwy o beth cymunedol, dydy o ddim yn rhan o benderfyniad moesol nac ariannol wedyn; mae o’n mynd i fod yn rhywbeth cymunedol.”