Cyn-Gyfarwyddwr Cyfreithiol y Blaid Lafur fydd ymgeisydd y blaid ar gyfer sedd Gorllewin Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol.
Daw hyn ar ôl i Kevin Brennan, yr aelod seneddol presennol, gyhoeddi na fydd yn sefyll eto ar ôl 23 o flynyddoedd yn San Steffan.
Yr ymgeisydd fydd yn brwydro’r sedd yw Alex Barros-Curtis.
Cafodd ei benodi gan y Blaid Lafur i gynorthwyo Keir Starmer yn 2020 i “gynnig cyngor cyfreithiol cyffredinol i’r arweinyddiaeth y Blaid Lafur”, yn ôl ei dudalen LinkedIn.
“Yn ogystal, rwy’n asesu’n barhaus gydymffurfiaeth y Blaid Lafur â gofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol.”
Yn rhinwedd ei swydd, fe fu’n cynorthwyo Keir Starmer â nifer o faterion sydd wedi codi o fewn y blaid, gan gynnwys gwrth-Semitiaeth.
Cyn gweithio i Keir Starmer, bu’n gweithio ag Owen Smith, cyn-Aelod Seneddol Pontypridd, fel Pennaeth Cydymffurfiaeth a Chyllid, ac fel Uwch-gynorthwyydd Seneddol i Andy Burnham pan oedd yn ceisio dod yn arweinydd y blaid.
Yn ôl y newyddiadurwr gwleidyddol Michael Crick, roedd “sïon yn dew” mai Alex Barros-Curtis fyddai’r ymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd.
Daw hyn yn dilyn ffrae am sedd Gorllewin Abertawe, lle mae sôn mai un arall o Lundain, Torsten Bell, fydd yn sefyll yn yr etholaeth honno.
‘Galw allan am newid’
“Dw i wrth fy modd o gael fy newis yn ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Gorllewin Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at barhau â gwaith caled Kevin Brennan dros y 23 mlynedd ddiwethaf,” meddai Alex Barros-Curtis.
“Mae cymunedau yma yng Ngorllewin Caerdydd yn galw allan am newid.
“All hynny ddim ond digwydd gyda Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig.”
Dywed llefarydd ar ran Llafur Cymru fod ganddo fe “brofiad cyfreithiol helaeth”, a’i fod yn “ymgyrchydd dros faterion cyfiawnder cymdeithasol”.