Aelodau ifanc yr Urdd oedd wedi gofyn i’r mudiad wneud datganiad yn galw am gadoediad yn Gaza, yn ôl Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd.
Bu Llio Maddocks yn siarad â golwg360 ar drothwy gwylnos ar faes Eisteddfod yr Urdd heno (dydd Gwener, Mai 31) i alw am heddwch yn Gaza.
Fydd yr Urdd ddim yn mynd â’r alwad at Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, tra ei fod e ar y maes heddiw, meddai.
Fodd bynnag, dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, eu bod nhw’n galw am gadoediad ac yn “galw ar wleidyddion Cymru i roi eu lleisiau tu ôl i gadoediad hefyd yn unol â phobol ifanc Cymru”.
Cefndir
Ledled y byd, mae 47m o bobol wedi rhannu datganiad yn dweud ‘All Eyes on Rafah’ dros y dyddiau diwethaf, ers i fomiau Israel arwain at dân mewn gwersyll i ffoaduriaid yn ninas Rafah yn ne Gaza.
Yn ôl adran iechyd Hamas, cafodd 45 o bobol eu lladd yno, ac ers i Israel ddechrau eu rhyfel yn Gaza ar ôl i Hamas ymosod ar Israel fis Hydref diwethaf, mae dros 35,000 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza a miliwn o bobol wedi cael eu dadleoli.
‘Cyfrifoldeb i godi llais’
Dywed Siân Lewis fod gan yr Urdd, fel mudiad sy’n hyrwyddo heddwch, gyfrifoldeb i godi llais.
“Rydyn ni’n mynd i gael ein harwain gan bobol ifanc,” meddai wrth golwg360.
“Os ydyn nhw’n teimlo’u bod nhw’n cael eu hymbweru gan beth sy’n digwydd heddiw, fe wnawn ni’n sicr eu harwain nhw i gynyddu’r galw a’r pwysau rydyn ni angen ei roi ar wleidyddion Cymru i ddangos solidariaeth pobol ifanc i alw am gadoediad.
“Dydyn ni ddim yn cael y gefnogaeth yna gan Lywodraeth Prydain na Llywodraeth Cymru yn gofyn am gadoediad, felly mae eisiau i ni sicrhau bod gyda ni gyfrifoldeb yn dilyn heddiw i roi’r pwysau ymlaen.
“Galw am gadoediad ydyn ni heddiw, galw ar wleidyddion Cymru i roi eu lleisiau tu ôl i gadoediad hefyd yn unol â phobol ifanc Cymru.”
‘Penderfyniad i’r bobol ifanc’
Bydd sesiwn holi rhwng curaduron ifanc yr Urdd a’r Prif Weinidog heddiw, a bydd cyfle iddyn nhw godi’r mater os mai dyna ydy un o’u blaenoriaethau nhw, medd Llio Maddocks.
“Mae mudiad yr Urdd wastad wedi gwrando ar leisiau pobol ifanc; ein haelodau sydd wedi gofyn i ni wneud datganiad yn galw am gadoediad yn Gaza a Phalesteina, ac rydyn ni’n gwrando arnyn nhw.
“Rydyn ni wastad yn gwrando arnyn nhw.
“Rydyn ni’n fudiad sy’n cael ei arwain gan ein pobol ifanc.
“Mae pobol ifanc ar ein fforymau ni, ac maen nhw’n barod iawn i godi llais a rhoi eu barn yn glir.
“Felly, rydyn ni wedyn yn cael ein harwain ganddyn nhw.
“Mae o’n gyfle i ni roi platfform i’n haelodau ifanc i siarad yn agored am beth sy’n digwydd yn y byd, a dod â’n haelodau ni sydd ar y maes, ac ymwelwyr eraill, i gornel o’r maes i sefyll efo’i gilydd a datgan ein bod ni o blaid heddwch dros y byd.”
Wrth ateb cwestiwn ynghylch a fydd yr Urdd, fel mudiad, yn galw ar Vaughan Gething heddiw i gefnogi a phwyso am gadoediad, dywed Llio Maddocks fod cyfle i’r bobol ifanc ei holi am hynny heddiw os ydyn nhw’n dymuno.
“Mi fydd yna sesiwn holi ac ateb yn Cwiar Na Nog efo’n curaduron ifanc ni, a dw i’n meddwl mai beth sy’n bwysig ydy ein bod ni’n caniatáu i’n pobol ifanc ni ofyn y cwestiynau sy’n berthnasol iddyn nhw,” meddai.
“Fyswn i ddim yn synnu os fysa yna gwestiwn am Gaza; mae o’n rywbeth sydd ar feddyliau lot o bobol ifanc heddiw yma a dros y misoedd diwethaf.
“Dydyn ni fel sefydliad ddim efo bwriad i wneud, ond beth ydyn ni’n ei wneud ydy rhoi cyfle i’n pobol ifanc ni ofyn y cwestiynau heriol yna sydd angen cael eu hateb.
“Mae o’n benderfyniad iddyn nhw os mai dyna ydy’u blaenoriaeth nhw o ran beth maen nhw eisiau ei ofyn i’r Prif Weinidog.”
Dywedodd Vaughan Gething yn y Senedd fis diwethaf ei fod yn cefnogi cadoediad yn Gaza.
‘Codi pontydd’
Mae’r Urdd wedi croesawu ffoaduriaid Palesteinaidd o’r Lan Orllewinol i Wersyll yr Urdd yng Nghaerdydd, ac aeth holl elw’r Urdd o nwyddau gafodd eu gwerthu dros gyfnod y Nadolig i elusennau sy’n gweithio yn Gaza.
“Mae o’n bwysig i ni ein bod ni’n codi pontydd ac yn caniatáu i bobol ifanc o Gymru a thu hwnt i gael y cyfle i drafod eu straeon efo’r rheiny sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth ac ymbil arnyn nhw i wneud rhywbeth a chymryd camau penodol i newid pethau,” meddai Llio Maddocks.
Ychwanega Siân Lewis eu bod nhw’n meddwl am y ffoaduriaid hynny sydd wedi dychwelyd i’r Lan Orllewinol.
“[Rydyn ni’n] meddwl am y ffoaduriaid yna mae rhai ohonom ni wedi cael pleser i’w cyfarfod, a sut fywyd maen nhw’n ddioddef ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae gyda ni gyfrifoldeb yn fwy na dim byd; fe wnaethon ni, flwyddyn ddiwethaf, hyrwyddo neges am heddwch wedi cael ei pharatoi gan ferched sydd wedi ffoi o ryfel mewn gwahanol wledydd ac erbyn hyn yn gweld Cymru fel cartref.
“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysig ydy bod pobol Cymru’n cael profiadau pwysig ar faes yr Eisteddfod, ond rydyn ni i gyd wedi gweld y delweddau erchyll yma sy’n digwydd yn Rafah yn Gaza.”