Ar ôl i’r newyddion dorri ar Newsnight nos Fawrth (Mai 28) fod Diane Abbott yn debygol o gael ei gwahardd rhag sefyll dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol, mae’r ymgyrch i Keir Starmer, sydd fel pe bai’n gyrru ar lôn sydd newydd gael ei tharmacio, wedi cymryd tro trwstan yn gyflym i lawr lôn fynyddig megis ffyrdd Gwynedd.

Mae’r sefyllfa efo Abbott yn un ddiddorol ac ychydig yn amheus yn foesol, ac yn etholiadol hefyd.

Os oes modd credu’r adroddiadau, cafodd yr ymchwiliad i’r llythyr gafodd ei anfon i’r Observer gan Abbott – oedd yn dweud nad yw Sipsiwn ac Iddewon yn profi’r un math o hiliaeth drwy gydol eu bywydau â phobol ddu – ei gwblhau fis Rhagfyr y llynedd.

Mae’n bwysig nodi bod Abbott wedi ymddiheuro ac wedi cwblhau cwrs addysg ar wrth-semitiaeth. Ers hynny, mae Starmer wedi dweud ar goedd sawl gwaith fod yr ymchwiliad yn dal yn parhau, sydd un ai yn anwybodaeth gan yr arweinydd neu’n gelwydd.

Drwy adael i’r ffiasgo gyrraedd yr etholiad cyffredinol, mae’r Blaid Lafur yn amlwg wedi ceisio cadw’r cwestiynau dros eu hymgeiswyr etholiadol allan o’r papurau newydd tan y funud olaf. Ond rŵan, mae pobol wedi cychwyn gofyn: pam fod y Blaid Lafur yn atal ymgeiswyr sydd yn dueddol o fod yn asgell chwith o ran eu credoau gwleidyddol rhag cynrychioli’r blaid?

Mae’r cwestiwn ynghylch pwy sydd yn ymgeisydd delfrydol i unrhyw blaid yn rywbeth sydd yn dueddol o gael ei gadw draw o lygaid y cyhoedd. Ond oherwydd yr hollt ideolegol sydd wedi bod yn y Blaid Lafur ers i Starmer ddod yn arweinydd yn 2020 (a chyn hynny, mewn gwirionedd), mae’r chwyddwydr dipyn amlach ar benderfyniadau Llafur i atal pobol fel Abbott, Faiza Shaheen, Beth Winter a sawl un arall na phleidiau eraill.

Mae’r tebygolrwydd y bydd y corwynt yma o fewn y Blaid Lafur yn effeithio ar arolygon barn – ac yn sgil hynny ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol – yn fach iawn. Ond y cwestiwn ydi, a yw hyn yn arwydd o ddyfodol gwleidyddiaeth o dan arweinyddiaeth Starmer?

Mae sawl cyn-Aelod Seneddol, megis Beth Winter, wedi dweud wrth golwg360 pa mor anodd oedd cydweithio efo Starmer, ac nad yw’r “drws ddim ar agor o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan”.

Mewn system wleidyddol, yn San Steffan, sydd yn hynod o ddwybleidiol yn nhermau pwy fydd yn llywodraethu, mae’n hawdd gweld pa mor bwysig ydi deialog fewnol y pleidiau i wneud yn siŵr nad yw’r un Prif Weinidog yn gweithredu fel unben.

Er bod nifer o bobol wedi gwrthwynebu’r Torïaid dros y 14 mlynedd diwethaf, does dim amheuaeth fod yna grwpiau meinciau cefn cryf sydd wedi bod yn pwysleisio materion penodol sydd wedi galw am benderfyniad gan un o’r pum Prif Weinidog diwethaf. Yn sicr, heb yr Eurosceptics Ceidwadol, mae’r tebygolrwydd y byddai’r Deyrnas Unedig yn dal yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn uchel iawn.

I Starmer, mi fydd Mehefin 7 yn ddiwrnod pwysig iawn. Dyma pryd fydd pob ymgeisydd yn gorfod cael eu cyhoeddi gan Bwyllgor Cenedlaethol y Blaid Lafur.

Bydd yna ddiddordeb gan y gwrthbleidiau a sylwebwyr. Ond i aelodau’r Blaid Lafur, bydd yna arlliw o bryder wrth aros i weld a fydd corwynt mewnol y blaid am effeithio ar yr hyn mae’r arolygon barn yn ei ddweud.

Drosodd atat ti, Keir…