Mae’r Blaid Werdd yn ceisio denu’r bleidlais sosialaidd oddi ar y Blaid Lafur yng Nghymru, ac yn croesawu cyn-aelodau Llafur sydd wedi’u dadrithio, yn ôl yr arweinydd Anthony Slaughter.

Ddoe (dydd Iau, Mai 30), fe wnaeth y Blaid Werdd lansio’u hymgyrch ym Mryste ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Maen nhw’n addo:

  • adeiladu 150,000 o dai cyngor newydd
  • cyflwyno Deddf Natur i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd
  • gwrthdroi “preifateiddio cynyddol” yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • gwella ansawdd dŵr yng ngwledydd Prydain.

Wrth siarad â golwg360, mae Anthony Slaughter wedi adleisio’r Cynnig Gwyrdd gan ddweud mai’r “brif neges ydi amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd”.

“Iechyd ydi’r brif mater i ni fel plaid, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cynnig penodol i Gymru, ac yn arwain i fewn i etholiadau’r Senedd yn 2026,” meddai.

Am y tro cyntaf, bydd gan y Blaid Werdd ymgeisydd ym mhob etholaeth yng Nghymru, ond dydy Anthony Slaughter ddim yn hyderus y byddan nhw’n ennill unrhyw un o’r seddi.

“Dw i ddim yn mynd i ddweud ein bod ni am ennill sedd yng Nghymru… ond rydym yn hyderus iawn mai hon fydd ein cyfran bleidlais fwyaf erioed.”

Mae’r blaid yn hoelio’u sylw ar bedair sedd yn Lloegr, sef Canol Bryste, Cwm Waveney – sedd newydd sydd yn cynnwys rhannau o Norfolk a Suffolk – a Gogledd Sir Henffordd.

Coch i wyrdd?

Yn ôl Anthony Slaughter, mae nifer o gyn-aelodau a chefnogwyr Llafur yn dechrau troi at y Blaid Werdd ar drothwy’r etholiad cyffredinol, yn enwedig ar ôl i helynt Diane Abbott adlewyrchu’r tyndra rhwng asgell chwith a chanol y Blaid Lafur.

“Rydym yn derbyn nifer o bobol sydd wedi eu dadrithio gan y Blaid Lafur, sydd un ai wedi gadael y blaid neu sydd wedi cael cais i adael y blaid yn dod i’r Blaid Werdd.

“Y neges yma yng Nghymru ydi, os ydych yn sosialydd blaengar, mae’r Blaid Werdd yn gartref i chi.”

Dywed fod pleidlais dros y Blaid Werdd yn bwysig fel ffordd o roi pwysau ar y Blaid Lafur i fod yn fwy “uchelgeisiol, ac yn fwy mentrus”.

“Dydi’r Blaid Lafur ddim eisiau ymrwymo i unrhyw beth,” meddai.

“A phan maen nhw’n dewis dweud rhywbeth, mae’n hynod o ddigalon – dydyn nhw ddim wedi diystyru cynyddu ffïoedd dysgu addysg uwch, er enghraifft.

“Dyma’r union reswm pam fod pobol asgell chwith yn dod aton ni.”