Mae Cyngres Sbaen wedi rhoi eu sêl bendith i’r Bil Amnest, fydd yn golygu rhoi maddeuant i ymgyrchwyr dros annibyniaeth i Gatalwnia.
Daw hyn er bod y senedd wedi gwrthod y bil – gafodd ei lunio gan y Sosialwyr, a phleidiau annibyniaeth Esquerra Republicana a Junts per Catalunya – ganol y mis, gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau’n cynrychioli Plaid y Bobol, sy’n blaid unoliaethol.
Dywedodd Esquerra a Junts na fydden nhw’n cefnogi Pedro Sánchez i fod yn Brif Weinidog Sbaen oni bai bod y bil yn cael ei dderbyn.
Bellach, mae’r Bil wedi cael cefnogaeth y Sosialwyr, Sumar, Esquerra, Junts, PNB, Bildu, BNG a Podemos, sy’n golygu cefnogaeth gan 177 o aelodau – 176 oedd eu hangen er mwyn ennill mwyafrif clir.
Ond roedd 172 yn erbyn, sef Plaid y Bobol, Vox, UPN a Coalición Canaria.
Yn ôl Pere Aragonès, arweinydd Esquerra, mae’r canlyniad yn “fuddugoliaeth i ddemocratiaeth”, ac mae Junts yn dweud ei fod yn ganlyniad “hanesyddol” wrth wneud yn iawn am “anghyfiawnder”.
Beth nesaf?
Yn dilyn pleidlais yn y Gyngres, byddai’n rhaid i Frenin Sbaen lofnodi’r Bil cyn iddo gael ei gyhoeddi a dod i rym.
Ar ôl cyhoeddi’r Bil, byddai gan farnwyr ddeufis i sicrhau ei fod yn dod i rym, ond mae disgwyl i rai gwestiynu a yw’n gyfreithlon a cheisio gohirio’r broses.
Mae disgwyl i’r Bil gael effaith ar sefyllfaoedd cannoedd o ymgyrchwyr ac arweinwyr annibyniaeth – yn eu plith mae’r cyn-arlywydd Carles Puigdemont; Marta Rovira, ysgrifennydd cyffredinol Esquerra; y cyn-weinidogion Toni Comín a Lluís Puig, ynghyd ag Oriol Junqueras, Jordi Turull, Dolors Bassa a Raül Romeva.
Bydd y Bil yn golygu pardwn i bawb fu’n rhan o’r ymgyrch dros annibyniaeth, unrhyw un gafodd eu cyhuddo o droseddau neu a fu’n destun ymchwiliad.
Bydd hefyd yn cynnwys y rhai oedd wedi trefnu’r refferendwm annibyniaeth oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.