Mae rhai o wleidyddion amlycaf Plaid Cymru wedi bod yn ymateb i helynt etholaeth Gorllewin Abertawe, lle mae ymgeisydd o Lundain yn sefyll ar gyfer y sedd Lafur ddiogel.

Yn ôl Nation.Cymru, Torsten Bell o felin drafod Resolution Foundation, sy’n ymchwilio i dlodi, oedd yn cael ei ffafrio gan y mwyafrif o fewn y blaid.

Mae ei ymgeisyddiaeth bellach wedi cael ei chadarnhau.

Roedd yn bennaeth polisi Ed Miliband, cyn-arweinydd Llafur, ac yn was sifil yn y Trysorlys fu’n ymgynghorydd arbennig i Alistair Darling, y cyn-Ganghellor.

Yn ôl pob tebyg, does ganddo fe ddim cysylltiad o gwbl â Chymru.

Daw hyn er bod eraill wedi ffafrio Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, a Huw David, cyn-arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

‘Troi’r dudalen ar 14 blynedd o farweidd-dra’

“Dyma’n cyfle i droi’r dudalen ar 14 blynedd o farweidd-dra,” meddai Torsten Bell.

“Dw i wedi cyffroi o gael bod yn ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Gorllewin Abertawe, ac at gael ymgyrchu dros Blaid Lafur wedi’i newid gyda Keir Starmer.”

Dywed Llafur Cymru fod ganddo fe “gyfoeth o brofiad ym maes polisi economaidd a mynd i’r afael â thlodi plant”.

“Bydd yn bencampwr gwirioneddol dros Orllewin Abertawe,” meddai llefarydd.

Gorllewin Abertawe

Daw’r helynt ar ôl i Geraint Davies, yr Aelod Seneddol presennol, gyhoeddi na fydd e’n sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Cafodd ei wahardd o’r blaid fis Mehefin y llynedd yn sgil cyhuddiadau o “ymddygiad hollol annerbyniol” a honiadau “eithriadol o ddifrifol”.

Roedd pump o fenywod wedi honni ei fod e wedi rhoi sylw rhywiol corfforol a geiriol iddyn nhw nad oedden nhw ei eisiau.

Ond ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Geraint Davies yn ddiweddar ei fod e’n “siomedig” nad yw e wedi cael cyfle i amddiffyn ei hun ac mae’n gwadu’r honiadau yn ei erbyn.

Dywed y bydd yn parhau i geisio gwrandawiad teg ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Y llynedd, daeth i’r amlwg fod tair aelod seneddol wedi cael eu rhybuddio ynghylch ymddygiad Geraint Davies wrth iddyn nhw fentro i San Steffan.

Enillodd e fwyafrif o 8,116 dros y Ceidwadwr yn 2019.

Fe fu’r sedd yn nwylo Llafur yn ddi-dor ers 1964.

Ymgeiswyr posib eraill

Ymhlith yr enwau eraill gafodd eu crybwyll mae Beth Winter.

Tan yn ddiweddar, hi oedd Aelod Seneddol Cwm Cynon ond mae hi wedi cael gwybod nad hi sydd wedi’i dewis i sefyll yn enw Llafur yn yr etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf.

Gerald Jones, cyn-Aelod Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni, yw’r ymgeisydd sydd wedi’i ddewis yno.

Roedd Beth Winter wedi cael ei chrybwyll gan Jenny Rathbone, yr Aelod Llafur o’r Senedd, sy’n dweud bod ei record “heb ei hail”.

Ond wrth ymateb dywedodd Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, ei bod hi’n “sosialydd”, ac fell y “bydd hi’n cael ei hatal”.

Un arall sydd wedi ymateb yw Hywel Williams, sy’n rhoi’r gorau i fod yn aelod seneddol dros Blaid Cymru.

Mae ei etholaeth, Arfon, yn cael ei dileu gan ddod yn rhan o etholaeth Bangor Aberconwy, fydd yn gyfuniad o hen etholaethau Aberconwy a Gorllewin Clwyd.

“Beth Winter i Orllewin Abertawe?” meddai.

“Gyda’r clîc presennol wrth y llyw yn Llafur, mae hi mor annhebygol â Moonshot Brydeinig.

“Roedd Beth yn aelod seneddol gwych, yn radical, yn ddiofn, ac yn gyson – ac felly’n ymgeisydd perffaith i’w symud o’r Grŵp Llafur.”

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi postio nifer o emojis o barasiwt.