Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Y gantores a chyfansoddwraig o Ffrainc, Floriane Lallement, sy’n agor y drws i’w chartref yn Llanuwchllyn ger Y Bala yr wythnos hon. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac yn perfformio ambell gân yn Gymraeg erbyn hyn…


Wnes i ddod i’r Bala am benwythnos yn fy camperfan a syrthio mewn cariad â’r lle. Roeddwn i’n sefyll yng nghanol y stryd fawr a jest yn gwybod fy mod i eisiau byw yma. Roedd yn atgoffa fi o bentref bach yn Ffrainc ac roeddwn i wrth fy modd efo’r defaid a’r gwyrddni. Roeddwn i’n byw yn Llundain ar y pryd ac angen dianc! Dw i wedi byw yn Llanuwchllyn ers tua blwyddyn erbyn hyn.

Yr olygfa o’r ardd gefn

Pan wnes i symud i Lanuwchllyn doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y lle a dw i wedi cael croeso mor gynnes. Wnes i symud i mewn i’r tŷ yma ar 5 Rhagfyr ac erbyn Dydd Nadolig roeddwn i wedi cael tair anrheg fach gan fy nghymdogion – byddai rhywbeth fel ‘na erioed wedi digwydd yn Llundain. Mae’r gymuned yn fendigedig yma. Roedd y gweinidog yn y capel wedi fy nghyflwyno i bawb a dw i rŵan yn mynd i’r clwb gwau.

Floriane yn yr ystafell fyw – un o’i hoff bethau yw’r lle tân

Dw i’n rhentu’r tŷ yma felly dw i heb wneud llawer o waith adnewyddu. Dw i’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn yr ystafell fyw, dyma le dw i’n gweithio. Dw i wrth fy modd efo’r lle tân yma – mae’r teils yn hyfryd. Wnes i dynnu llun o un o’r teils a mynd i siop i ofyn os oedden nhw’n gallu cymysgu paent yn yr un lliw â’r teil. Mae’n fwy llachar na beth oeddwn i wedi disgwyl ond dw i’n licio’r lliw rŵan.

Y teils ar y lle tân

Fi wnaeth y silffoedd yn yr ystafell fyw a dw i’n falch iawn ohonyn nhw. Dw i’n mwynhau gwneud gwaith coed ond dw i ddim yn dda iawn!

Y silffoedd wnaeth Floriane ei hun

Dw i’n caru’r soffa – mae’n cŵl iawn. Doedd gen i ddim dodrefn pan wnes i symud yma ond dw i wrth fy modd yn prynu pethau mewn siopau elusen a marchnadoedd ail-law. Roedd rhywun yn y pentref wedi rhoi bwrdd i fi ond mae’r tŷ yn fach, felly does dim llawer o le i fwy o bethau.

Offerynnau Floriane, sy’n gwneud iddi deimlo’n gartrefol

Fy offerynnau – yn enwedig y gitarau – ydy fy hoff bethau yn y tŷ. Mae gan bob gitâr ac offeryn enw gwahanol. Mae gen i ddau ddarn o waith celf hefyd sy’n arbennig iawn. Mae un yn ddarlun o’r goleudy ar Ynys Enlli gan yr artist Deirdre Mckenna, ac mae’r llall yn blac efo fy enw proffesiynol arall Fleur Sana. Cafodd y plac ei wneud gan ddau ffrind, Cédric Suire a Serge Pascal o’r Fondation de Coubertin yn Ffrainc.  Wnes i ddefnyddio’r enw Fleur Sana achos mae fy nghyfenw ‘Lallement’ yn golygu “yr Almaenwr”. Ond ar ôl chwe blynedd o gael fy ngalw yn enw gwahanol wnes i benderfynu fy mod i eisiau defnyddio fy enw iawn eto.

Y llun o Ynys Enlli gan Deirdre Mckenna
Y plac a wnaed gan Cedric Suire a Serge Pascal

Beth sy’n gwneud i fi deimlo’n gartrefol ydy fy offerynnau ond hefyd y bobl o fy nghwmpas. Mae llawer o bobl greadigol yn Llanuwchllyn. Dw i’n credu bydd yn rhaid i fi symud i rywle ychydig y tu allan i’r pentref yn y dyfodol achos dw i eisiau prynu drymiau ac er bod fy nghymdogion yn hyfryd dw i ddim yn credu bydden nhw’n hoffi gwrando arna’i yn ymarfer drwy’r dydd! Dw i’n ffodus iawn i fyw mewn cymuned mor groesawgar a dw i’n teimlo fel Cymraes rŵan.

Mae Floriane yn mwynhau gwneud gwaith coed a hi wnaeth y silffoedd yn yr ystafell fyw

Fe fydd Floriane Lallement yn perfformio yng Ngŵyl Draig Beats yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor  ddydd Sadwrn, 8 Mehefin am 2pm.