Mae darganfyddiadau a datblygiadau cymdeithasol newydd yn galw am eiriau newydd, neu’n eu creu. Rhaid bathu gair am yr hyn nad oedd yn bodoli cynt. Dyma ambell enghraifft ddiweddar: Agrivoltaics; Parasocial; Mononym a Rizz.

Mae rhaid bathu gair newydd weithiau, i ddisgrifio rhywbeth sydd yn digwydd yn gyson. Dyma ambell awgrym gennyf o enw i gydio mewn rhyw bethau sydd yn digwydd yn rheolaidd mewn capel:

Cyhoefi ac Eifiolaeth: Pregeth neu weddi gynulleidfaol lle mae sôn yn gyson am y pregethwr ei hun, ei blant, ei anifeiliaid anwes, ei wyliau tramor, ei fympwyon, ei amheuon – y cyfan oll ar draul y newyddion da am gariad Iesu Grist.

Piweitus: Yr anesmwythyd pigog hwnnw a ddaw o ganlyniad i bregeth hir. Mae piweitus ar ei waethaf pan fo oedfa’n mynd ymlaen yn hirach na’r awr sy’n cael ei phennu gan y Beibl (Lefiticus 28:1). Mae piweitus yn aml iawn yn arwain at byliau o besychu uchel.

Piwalgia: Y dynfa ryfedd honno sydd yn cymell aelodau trwm eu clyw i eistedd yng nghefn y capel; i aelodau sydd yn ymdeimlo’n fawr ag oerni i eistedd yng nghornel fwyaf drafftiog y capel, ac i’r rheiny sydd yn cwyno’n gyson fod y capel yn rhy gynnes o lawer, i eistedd fwy neu lai ar ben y gwresogydd.

Cyhoedditus: Y sŵn hwnnw yn y glust pan fo’r cyhoeddiadau’n mynd ymlaen… ac ymlaen.

Esgusatoleg: Yr holl ystod o esgusodion sy’n cael eu cynnig am fethu mynychu’r oedfaon yn gyson. Mae esgusatoleg ar ei mwyaf amlwg pan fo gofyn i’r gweinidog drafod trefniadau bedydd, priodas neu angladd neu, yn wir, pan fo’r gweinidog yn galw’n annisgwyl.

Megalurch: Eglwys yn byw ar waddol y gorffennol. Eglwys gref sydd, er gwybod yn well, yn dewis aros yn ei hunfan.

Flightgeist: Yr awydd i ddianc i arferion a dulliau’r gorffennol, gan gwyno bod yr eglwys yn ildio’n ormodol i’r zeitgeist.

Bethgeist: Gweinidogion ac aelodau nad ydyn nhw’n gwybod beth yw zeitgeist, ond sydd, er gwaethaf hynny, yn byw’r ffydd yn hyn o fyd, yn syml a didwyll.

Bwerbwyntiwr/wraig: Yr hwn neu’r hon sydd yn gyfrifol am wasgu botwm cyflwyniad PowerPoint yr oedfa.

Dibwerbwynt: Eglwys sydd yn llwyddo i addoli heb PowerPoint; neu ddisgrifiad o’r lletchwithdod a ddaw o sylweddoli nad yw’r PowerPoint yn gweithio heddiw.

Dwcsgregis (o’r Lladin): yr aelodau hynny sydd ond yn dod i’r oedfaon pan fo’r gweinidog adref.

Gwrthdwcsgregis: yr aelodau hynny sydd ond yn dod i’r oedfaon pan fo’r gweinidog i ffwrdd.

EFFaith3:20: Y ffordd mae Iesu Grist yn creu eglwys ohonom ac ein tebyg. Iddo ef, sydd a’r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na’i ddychmygu, TRWY’R GALLU SYDD AR WAITH YNOM NI. (Effesiaid 3:20).