Gyda’r tywydd yn cynhesu, hoffwn luchio gwialen i’r dŵr am bryd ffres a maethlon.

Lle nad oes yma lawer o waith coginio, mae’r blasau yma’n mynd yn fendigedig gyda’i gilydd ac mae’r pysgod yn ddigon i’ch cadw’n ddedwydd am oriau lawer. Yn anffodus, ni allaf honni i mi brynu’r cynhwysion rhain gan fusnes lleol; o archfarchnad maen nhw wedi dod, ond mae’r cyfan yn ffres.

Diddorol yw nodi fod y cyfan yn bwydo tri pherson am £5.93; bargen go iawn pan sylwais fod Morrisons yn gwerthu pei pysgodyn (pryd parod) i ddau am £6.99. Dyma brofi, felly, nad yw prynu’n ffres o hyd yn golygu gwario mwy!


Beth fydda i ei angen?

2 ffilet hadoc wedi’i fygu yn barod i’w coginio

2 x 250g o gregyn gleision yn barod i’w coginio mewn saws gwin gwyn

150g Tiger Prawns (3 x £10)

Torth fach menyn (Lurpak oedd fy newis i)

Dill

Olew Tsili

Pupur a Halen


Paratoi

Torrwch ddarnau o Dill yn fân

Cymysgwch nhw i mewn i bowlen gyda llwy fwrdd dda o Lurpak, a gosod y menyn o’r neilltu wedi’i orchuddio


Coginio

Gosodwch eich dau ffilet mewn pecyn ffoil pob un, a’u cynhesu ar nwy 6 am rhwng 12-16 munud

Tynnwch y cregyn gleision allan o’u pacedi plastig, a’u tywallt i mewn i sosban

Gorchuddiwch y sosban, a’u coginio dros wres canolog am 5 munud, gan eu troi yn achlysurol

Tynnwch y cynffonau oddi ar y corgimwch (prynais i rai oedd yn barod i’w bwyta, ond gallwch brynu rhai amrwd os ydych chi eisiau)

Trowch y gwres i ffwrdd ar y cregyn gleision, a’u tywallt gyda’u saws i bowlen o’ch dewis. Os oes rhai nad ydyn nhw wedi agor, lluchiwch y rheiny

Gosodwch y corgimwch o’u cwmpas a rhowch bupur a halen ar ben y cyfan.

Trowch y popty i ffwrdd, a byddwch yn ofalus wrth dynnu’r hadoc allan, gan y bydd y ffoil yn ferwedig.

Gosodwch yr hadoc i lawr, a’i haneru. Bydd hanner arall ar ôl i un llwglyd!

Torrwch dair tafell o fara, a gwasgaru’r menyn dill drostyn nhw

Taenwch yr olew tsili ar eich bara (mae’n syniad cadw’r cam yma tan y cam olaf, gan y gall yr olew, o sefyll yn rhy hir, wneud eich bara yn feddal)

Does dim i’w wneud wedyn ond… Ia, rydach chi’n iawn… MWYNHAU!