Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yn rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon mae John Rees, sy’n arbenigwr ar hen bethau ac yn cyfrannu’n rheolaidd i raglen Prynhawn Da ar S4C yn ogystal ag ysgrifennu colofn i Lingo Newydd. Mae hefyd yn rhedeg cwmni vintage Cow & Ghost, sy’n cynnal ffeiriau vintage a siop, sy’n rhan o Bazaar Vintage & Antique Warehouse yn Arberth, Sir Benfro. Mae’n byw yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe…
Dw i’n credu mai’r atgof cyntaf o fwyd sy gen i ydy arogl bara ffres. Roedd Mam-gu yn gwneud bara ei hun. Dw i’n cofio bod yn ifanc iawn ac yn gwylio’r holl broses – eistedd yn y gegin tra roedd hi’n gwneud y toes, yna’r toes yn ‘codi’ yn y bowlen fawr ger y tân a’r gwynt yn dod o’r ffwrn wrth i’r bara bobi. Does dim byd fel bara ffres. Dw i’n dwlu ar fara. Os dw i’n digwydd bod mewn siop ble mae’r bara yn cael ei wneud, mae’r gwynt yn mynd â fi’n syth nôl i gegin fy Mam-gu, neu Gran fel ro’n i’n ei galw hi. Roedd hi’n torri’r crwst a bydde’r ddau ohonon ni yn ei rannu, tra’i fod e dal yn dwym, a’i fwyta efo menyn.
Roedd Gran, mam fy mam, yn coginio lot. Roedd hi’n arbrofol iawn – wastad yn trio pethau gwahanol – teisennau, jam, picls, pethau sawrus. Mae Mam yr un peth, mae hi’n arbrofi efo pethau newydd trwy’r amser. Roedd Gran Rees yn wahanol. Roedd hi’n gogyddes wych, ond roedd ganddi gasgliad o bethau arbennig fyddai hi’n coginio drosodd a drosodd. Dw i’n cymryd ar ôl y ddwy. Yn bendant mae casgliad o ffefrynnau, ond dw i’n aml yn trio pethau newydd yn enwedig teisennau gan fod y busnes [Cow & Ghost] yn cynnal y siop de yn y ffeiriau vintage. Dw i’n hoffi coginio, a dw i’n siŵr bod hyn oherwydd bod pawb yn y teulu yn mwynhau hefyd.
Os dw i eisiau cysur, neu wedi bod yn sâl, dw i wastad yn troi at dôst. Lot o fenyn, ambell waith jam. Rhywbeth hawdd, ond blasus. Dw i hefyd yn yfed lot o laeth. Roedd mam yn awyddus iawn i fi a fy mrodyr yfed llaeth fel plant, ac mae’r tri ohonon ni yn dal i wneud.
Dw i ddim yn bwyta cig, felly os dw i’n mynd allan dw i’n tueddu i gael bwyd Eidalaidd. Mae wastad dewis da a blasus o pizza a phasta. Os ydyn ni’n mynd i ffwrdd dw i’n gwneud lot o ymchwil ar y we ac yn ceisio darganfod bwytai Eidalaidd bach annibynnol. Mae llawer dw i wedi ffeindio yn fusnesau teuluol efo hen ryseitiau sy’n ecsgliwsif iddyn nhw. Y pryd delfrydol ydy pizza ble mae’r toes a’r saws wedi’u gwneud â llaw efo cymysgedd o lysiau ffres ar y top.
Os dw i’n mynd allan i ddathlu, dw i yn hoffi cael te prynhawn. Mae’n gweddu’r byd vintage sy’n rhan mor fawr o fy mywyd a fy ngwaith. Yn aml mae’r tsieina yn hen ac mae’r teisennau yn draddodiadol. Mae sawl pen-blwydd wedi cael ei ddathlu mewn lle diddorol. Mae nifer o westyau moethus yn cynnig te prynhawn. Mae’n ffordd dda o ymweld â rhywle moethus a chael y profiad o fwyta yno heb aros am noson. Dw i newydd droi’n hanner cant ac mae te prynhawn wedi bod yn rhan fawr o’r dathliadau gyda ffrindiau a theulu.
Dw i wrth fy modd efo hen dafarndai. Os ydyn ni’n mynd i ffwrdd dw i’n dwlu edrych am y rhai bach annibynnol sydd heb newid llawer dros y ganrif ddiwethaf. Dw i’n hoffi’r bensaernïaeth, y celfi ac ati. Mae bron pob un wedi bod yn lle da i gael pryd o fwyd arbennig.
Os dw i’n coginio i bobl eraill, dw i’n tueddu i wneud pethau fel pasta a lasagna. A dw i’n hoffi gwneud salads diddorol a phobi bara. Mae’n hyfryd rhoi amrywiaeth o bethau ar y bwrdd a gadael i ffrindiau helpu eu hunain i sawl peth.
Roedd gan Dad-cu ddau randir a thŷ gwydr, felly roedd lot o lysiau a ffrwythau yn yr haf. Dw i’n gallu cofio arogl y tŷ gwydr yn yr haf ac roedd yn tyfu’r tomatos gorau yn y byd. Roedd yr holl lysiau a ffrwythau yma yn arwain at lot o jam, siytni a gwin cartref – rhai ohonyn nhw yn anghyffredin iawn. Dw i’n cofio gwin persli a hyd yn oed gwin pannas! Roedd wastad dewis eang o jam a siytni yn y tŷ. Dw i dal yn gwneud llawer o’r pethau roedd Mam-gu a Tad-cu yn gwneud. Dim cymaint o jam, ond dw i’n dwlu gwneud siytni ac yn rhoi llawer fel anrhegion i deulu a ffrindiau.
Mae un o’r ryseitiau yma wedi bod yn y teulu ers talwm. Siytni ffa dringo Gran Rees. Daeth y rysáit gan berthynas i Dad-cu oedd yn byw yng Nghaerau ger Maesteg. Does neb yn gwybod yn gwmws sut roedd hi’n perthyn i ni. Dw i ddim yn sicr bod Tad-cu yn gwybod. Roedd Gran Rees a Tad-cu yn mynd i weld hi nawr ac yn y man ac un diwrnod rhoddodd hi’r rysáit yma i Gran. Mae’n wych ac yn ffefryn mawr gyda’r teulu i gyd. Dw i’n gwneud batch o leia’ teirgwaith y flwyddyn.
Siytni ffa dringo Gran Rees
1½ pwys ffa dringo (mae angen torri’r ochrau a’r top/gwaelod)
¾ pwys siwgr brown
1¼ peint finegr brag (malt)
1 llwy bwdin o bowdr mwstard
1 llwy fwrdd o flawd corn
1 llwy bwdin o tyrmerig
Torrwch y ffa yn ddarnau o tua 1cm. Berwch nhw gyda llwy de o halen nes eu bod yn dyner. Draeniwch y dŵr a rhoi’r ffa mewn sosban fawr efo peint o’r finegr a’r siwgr. Berwch nes bod y gymysgedd yn dechrau tewychu. Mewn jwg, cymysgwch weddill y finegr, y powdr mwstard, y blawd corn a’r tyrmerig. Ychwanegwch at y ffa. Berwch yn araf nes ei fod yn edrych fel siytni. Rhowch mewn jariau glân a gadwech i oeri. Mae’n barod i’w ddefnyddio’n syth. Does dim angen aros am fisoedd fel sydd gyda rhai picls.