Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhlas Bodrhyddan ger Rhuddlan, Sir Ddinbych

I’r rhai ohonoch chi sy’n hoffi cyfuno celf, bwyd, ychydig o hanes a gerddi ysblennydd, yna mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal ym Mhlas Bodrhyddan ger Rhuddlan yn Sir Ddinbych dros y penwythnos.

Mae’r digwyddiad ym Mhlas Bodrhyddan ger Rhuddlan yn dathlu serameg

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Ceramic Wales, gafodd ei sefydlu yn 2015 gan grŵp o grochenwyr yng ngogledd Cymru, a Phlas Bodrhyddan, adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi bod yn gartref i deulu’r Arglwydd Langford ers 500 mlynedd.

Mae’r digwyddiad – “Potiau, Planhighion a Bwyd” – yn dathlu gwaith serameg gan ystod eang o grochenwyr, planhigion a blodau, a chynhyrchwyr bwyd o’r ardal.

Bydd yn cael ei gynnal heddiw (dydd Sadwrn, 15 Mehefin) a fory (dydd Sul, 16 Mehefin) ym Mhlas Bodrhyddan. Bydd y drysau’n agor am 10yb. Gallwch brynu tocynnau yma.