Mae NFU Cymru yn lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo bwyd Cymru, gan geisio cefnogaeth y cyhoedd i helpu i ddiogelu dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Bydd ymgyrch yr undeb, sef ‘Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru’, yn cael ei rhoi ar waith yn ystod Wythnos Ffermio Cymru ddydd Llun 17 Mehefin – sef y drydedd wythnos flynyddol o’r fath i’w chynnal.

Bydd y fenter yn annog pobol ledled Cymru i gefnogi bwyd Cymru trwy lofnodi deiseb ar-lein NFU Cymru.

Gobaith yr undeb yw y bydd llu o bobol yn llofnodi’r ddeiseb ar-lein, ac y bydd hynny’n dangos i’r llywodraeth pa mor gefnogol yw’r cyhoedd i gynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Bydd NFU Cymru’n codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch gyda chyfres o faneri trawiadol fydd yn cael eu gosod ar glwydi ar hyd llwybrau poblogaidd ledled y wlad, a hefyd mewn siopau fferm a chyrchfannau bwyd poblogaidd eraill.

Wythnos Ffermio Cymru

Bydd lansio’r ymgyrch Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru yn arwain gweithgareddau’r undeb yn ystod Wythnos Ffermio Cymru, sy’n dechrau heddiw (dydd Llun, Mehefin 17).

Mae uchafbwyntiau eraill yr wythnos yn cynnwys:

  • cyfres o ddiwrnodau i randdeiliaid lleol (dydd Mawrth, Mehefin 18)
  • gwersi byw ar-lein dwyieithog poblogaidd i ddisgyblion ysgolion cynradd, a’r teitl eleni fydd ‘Antur Fawr Hufen Iâ Cymreig’ (dydd Mercher, Mehefin 19)
  • digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yng nghanol Caerdydd (dydd Gwener, Mehefin 21).

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymchwydd o gefnogaeth gan y cyhoedd o blaid bwyd Cymru a ffermwyr Cymru wedi bod yn eithriadol,” meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.

“Pan aethom ati i gofnodi barn ein defnyddwyr y gaeaf diwethaf, gwelwyd bod 82% o’r cyhoedd yng Nghymru yn gefnogol i’r syniad y dylai’r llywodraeth roi arian i ffermwyr ar gyfer cynhyrchu bwyd.

“Rydw i’n gwybod hefyd bod staff ac aelodau NFU Cymru wedi cael eu syfrdanu gan ymateb cadarnhaol y bobol aeth heibio i arddangosfa’r undeb ym mis Mawrth, sef 5,500 o welingtons ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd.

“Mae hyn oll yn dangos bod bwyd o Gymru yn bwysig dros ben i bobol Cymru, a bod trigolion ein gwlad eisiau i ffermwyr gael cymorth fel y gallant barhau i gynhyrchu’r bwyd hwnnw.

“Nod ein hymgyrch ‘Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru’ yw dwyn y diwydiant ynghyd a dangos cymaint o gefnogaeth sydd yna dros y bwyd gaiff ei gynhyrchu yng Nghymru gan ffermwyr y wlad.”

Y diwydiant yn rhannu pryderon

“Mae dyfodol polisïau ffermio a’r cyllid sy’n gysylltiedig â’r polisïau hynny wedi bod yn destun cryn drafod yng Nghymru ers misoedd lawer,” meddai Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru.

“Mae’n gwbl amlwg bod y diwydiant – yn ogystal â’r cyhoedd – yn rhannu pryderon ynglŷn ag effaith y polisïau hynny ar allu ffermwyr i gynhyrchu bwyd.

“Fel ffermwyr, mae hi o fudd i bob un ohonom sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed pan ddaw hi’n fater o Ddiogelu Dyfodol Bwyd Cymru.

“Ar adeg pan mae cynhyrchu bwyd ledled y byd dan bwysau oherwydd effeithiau newid hinsawdd a gwrthdaro byd-eang, allwn ni ddim fforddio llesteirio’r arfer o gynhyrchu bwyd diogel, o ansawdd uchel, a gaiff ei wneud mewn hinsawdd sy’n gweddu’n berffaith i gynhyrchu llaeth, cig, wyau, tatws, cnydau a llysiau.

“Dros yr ychydig fisoedd nesaf, mae angen i gynifer o bobl â phosibl lofnodi’r ddeiseb ar wefan NFU Cymru, naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, er mwyn ysgogi’r gefnogaeth hon dros fwyd Cymru.

“Yn y pen draw, rydym eisiau i lunwyr polisïau weld bod y cyhoedd yng Nghymru eisiau cymorth yn y dyfodol gogyfer cynhyrchu bwyd diogel, cynaliadwy ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.”