Mae’r eitem yma’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.

Y tro yma, Sue Coleman o Fae Colwyn, sy’n adolygu’r rhaglen Trefi Gwyllt Iolo, sy’n cael ei chyflwyno gan Iolo Williams. Mae Sue bellach wedi ymddeol ond cyn hynny roedd hi’n gweithio yn y Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn fel Swyddog Addysg.

Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers iddi fod yn yr ysgol ond pan oedd yn gweithio yn y Sw aeth i ddosbarthiadau i wella ei Chymraeg.


Sue, beth yw eich hoff raglen ar S4C? Dw i ddim yn gwylio llawer o raglenni ar y teledu a dweud y gwir ond dw i’n mwynhau rhaglenni am fyd natur, er enghraifft, Trefi Gwyllt Iolo.

Pam dych chi’n hoffi’r rhaglen? Dw i’n hoffi’r rhaglen yma achos mae’n fy helpu i ddysgu am natur yn Gymraeg.

Beth yw eich barn am y cyflwynydd

Iolo Williams yw fy hoff gyflwynydd achos daeth o i gyfweld â mi ar gyfer un o benodau Trefi Gwyllt Iolo.

Pam fod y rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg? 

Mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg achos mae’n bosib gwylio’r rhaglen gydag isdeitlau er mwyn i chi allu gwrando a darllen ar yr un pryd.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd? Maen nhw’n siarad iaith y gogledd.

Bysech chi’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen? 

Byswn. Dw i’n credu bod pobl yn dysgu orau pan maen nhw’n gwylio rhaglenni am eu diddordebau ac mae’n bosib gwrando a darllen ar yr un pryd.

Mae Trefi Gwyllt Iolo ar gael ar S4C Clic.