O jociau ‘cnoc cnoc’ i gellweirio am y fam-yng-nghyfraith, mae ymchwilwyr yn ystyried sut y gall digrifwch effeithio ar berthnasau cyplau hŷn.

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn dechrau astudiaeth ar sut mae pobol dros 60 oed yn defnyddio hiwmor gyda’u cymar.

Mae seicolegwyr yn gwahaniaethu rhwng cellweiriau sydd ag effaith negyddol ar ein lles, ac eraill sy’n gadarnhaol.

Mae llawer o actau Jerry Seinfeld yn defnyddio hiwmor sy’n apelio at bawb, tra bo Jon Stewart ar y Daily Show yn aml yn defnyddio arddull ddifalais sy’n gwneud y digrifwr ei hunan yn gocyn hitio – mae’r ddwy arddull yn cael eu hystyried yn seicolegol gadarnhaol.

Ar y llaw arall, mae academyddion yn cyfeirio at ddulliau comedi eraill sy’n negyddol, hynny yw y math o wawdio sy’n cael ei glywed yn aml yn actau Romesh Ranganathan a chellweiriau eraill sy’n sarhau unigolion, fel y gwnaed yn glasurol gan y diweddar Joan Rivers.

Mae ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio ar effaith hiwmor ar berthynas cyplau iau, gan ddangos bod jôcs ymosodol yn tueddu i gael effaith negyddol ar foddhad pobol â’u perthynas.

Fel rhan o’r astudiaeth newydd, bydd academyddion yn cynnal arolwg o gyplau sy’n 60 oed neu’n hŷn, i weld sut mae hiwmor yn effeithio arnyn nhw.

Rhan o nod yr astudiaeth yw dysgu gwersi y gellid eu defnyddio i wella gofal pobol hŷn.

“Ochr ddifrifol” i jôcs

“Er bod pawb yn mwynhau jôc dda, mae ochr ddifrifol i effaith cellweiriau a ffraethineb ar ein perthnasoedd a’n lles,” meddai Heather Heap, sy’n cynnal yr astudiaeth.

“Er enghraifft, drwy ddeall sut mae ffactorau gwahanol yn effeithio ar berthnasoedd oedolion hŷn, efallai y bydd hynny’n helpu i wella dulliau gofal a thriniaeth.

“Mae ganddo oblygiadau pwysig i les cyplau.

“Mae hiwmor yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau ni i gyd.

“Mae ymchwil wedi dangos bod ganddo lu o fanteision – rhai ohonyn nhw yn fwy amlwg nag eraill – i iechyd meddwl a chorfforol unigolion, sy’n gwneud oedolion hŷn yn fwy bodlon â’u bywydau ac yn gwella eu cydlyniad cymdeithasol.”

‘Defnyddio hiwmor at lawer o ddibenion’

“Mae pobol yn defnyddio hiwmor at lawer o ddibenion, ond dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y rôl y mae hiwmor yn ei chwarae wrth gynnal perthnasoedd rhamantus,” meddai Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth.

“Ac fe wyddom lai byth am sut mae cyplau hŷn yn defnyddio hiwmor yn eu perthynas.

“Rydyn ni’n gwybod bod hiwmor yn agwedd bwysig i lawer o bobol, ac rydyn ni’n gobeithio dysgu mwy am sut y’i defnyddir ymhlith rhan o’r boblogaeth nad yw’n cael ei hastudio’n aml.”