Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl heno (nos Iau, Mehefin 13).
Elan Rhys Rowlands a Neil Rayment, sydd gan siop gemwaith yng Nghaerdydd, sy’n gyfrifol am wneud y Goron, tra bo’r Gadair wedi’i dylunio a’i cherfio gan Berian Daniel.
Cafodd y Goron a’r Gadair eu dangos i’r Pwyllgor Gwaith mewn seremoni arbennig yn y Guildhall yn Llantrisant.
Y Goron
Mae’r Goron wedi cael ei noddi gan Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd, a nhw hefyd sy’n cyflwyno’r wobr ariannol o £750.
Cyfuna’r Goron nodweddion Hen Bont Pontypridd gyda phatrwm nodau’r anthem genedlaethol, gafodd ei chyfansoddi yn y dref.
Awgrymodd Elan Rhys Rowlands fod y Goron yn cael ei chreu gyda darnau bychain o arian pur wedi’u gosod fel tonnau, gyda’r bwriad o blethu hanes cerddorol yr ardal iddi.
Cafodd teitl yr Eisteddfod ei osod ar y bont i angori’r cynllun, ac mae’r Nod Cyfrin, symbol Gorsedd Cymru ers cyfnod Iolo Morganwg, yn addurno blaen y Goron.
Bu Elan yn gweithio gyda phymtheg o ddisgyblion yn Ysgol Garth Olwg ar y prosiect, a chafodd eu syniadau nhw eu hystyried wrth ddylunio’r Goron.
Ar hyn o bryd, mae Elan yn brentis gyda chwmni Neil Rayment, ac fe wnaeth y ddau gydweithio i greu’r Goron.
Bydd y Goron yn cael ei chyflwyno eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd ar y pwnc ‘Atgof’, a’r beirniaid yw Tudur Dylan Jones, Elinor Gwynn a Guto Dafydd.
Y Gadair
Derw o goedwig hynafol, gwaith haearn yn adlewyrchu diwydiant glo’r cymoedd, ac ‘Aur y Rhondda’, yw’r nodweddion ar y Gadair eleni.
Mae’r goeden wedi’i thorri yn ei hanner ac yn y canol mae ‘afon’ o ddarnau glo wedi’u boddi mewn resin, a’r cwbl yn cael ei ddal yn ei le gan fariau haearn.
Yn ôl Berian Daniel, mae’r tair rhan yn cynrychioli afonydd Rhondda, Cynon a Thaf.
“Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â’r syniad o greu afon o lo a’r term ‘Aur y Rhondda’. Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth,” meddai.
“Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae ei ddylanwad yn parhau’n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon.”
Ysgol Llanhari, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni, sydd wedi noddi’r Gadair hefyd.
Daeth y pren o goeden oedd yn tyfu’n agos at gartref Iolo Morganwg yn y Bont-faen.
Roedd rhaid i’r afon o lo fod yn gwbl gywir, gan fod pob darn bach wedi’i guddio gan resin, a bu’n rhaid i Berian Daniel arbrofi tipyn cyn perffeithio’r afon.
Haearn sy’n creu’r Nod Cyfrin, ac mae elfennau o natur, diwylliant a diwydiant cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn y Gadair.
‘Cadwyn’ yw testun cystadleuaeth y Gadair eleni, a bydd yn cael ei rhoi am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol.
Aneirin Karadog, Dylan Foster Evans a Huw Meirion Edwards yw’r beirniaid.
‘Symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant’
Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod, dywedodd Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fod gwneud hynny’n “bleser”.
“Dyma’r cyfle cyntaf i ni weld y Goron a’r Gadair, ac rwy’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wrth ddweud ein bod ni wrth ein boddau gyda’r ddwy,” meddai.
“Maen nhw’n symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant, ond mae’r lleol hefyd i’w weld yn gwbl glir yn y ddwy, ac mae hyn wedi bod mor bwysig i ni yma yn Rhondda Cynon Taf drwy gydol ein taith.
“Rydyn ni’n ymwybodol iawn ein bod ni’n rhoi cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni – ond ein prifwyl ni yw hi, gyda stamp clir y Cymoedd i’w weld yn rhaglen pob un o’r pafiliynau ac, rwy’n falch o ddweud, yn ein Cadair a’n Coron.
“Yfory fe fyddwn ni’n dathlu mai dim ond hanner can diwrnod sydd i fynd tan i Gymru gyrraedd Parc Ynysangharad.
“Rydyn ni’n awchu i chi gyrraedd a chael blas o’r croeso a’r rhaglen cwbl wych sy’n eich aros. Rydyn ni wedi aros yn hir am gyfle i gynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf – 68 mlynedd – ac mae hi ar fin cyrraedd.
“Felly, mae’r neges yn glir wrth i ni ddadorchuddio’r Gadair a’r Goron heno, dewch i Bontypridd, a dewch i grwydro ardal hyfryd Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n barod amdanoch chi!”
Bydd seremoni’r Coroni’n cael ei chynnal ddydd Llun, Awst 5, a’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 9.