Mae’r elusen Aloud, sy’n gyfrifol o’r côr Only Boys Aloud, yn wynebu cyfnod o ansicrwydd yn dilyn cyhoeddiad eu bod mewn trafferthion ariannol.

Mewn apêl frys, cyhoeddodd yr elusen bod rhaid iddyn nhw godi £150,000 er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer yr elusen a’r côr adnabyddus.

Mae’r côr yn darparu ymarferion am ddim i ddynion ifanc, a dywed yr elusen y bydd hyn yn cael ei golli heb gefnogaeth a chyllid.

Mae Only Boys Aloud wedi cael eu gorfodi i oedi gweithgareddau i ddisgyblion uwchradd, ac wedi haneru nifer eu staff oherwydd y wasgfa ariannol.

Ers dechrau’r fenter yn 2010, mae dros 6,500 o fechgyn wedi bod yn aelodau o’r côr ac erbyn hyn mae 11 côr ynghlwm ag Only Boys Aloud.

Hinsawdd economaidd

Dywed Carys Wynne-Morgan prif swyddog gweithredol elusen Aloud eu bod “fel cymaint o elusennau celfyddydol eraill, yn ei chael hi’n anodd iawn”.

“Mae’r hinsawdd economaidd a’r amgylchedd ariannu wedi’n bwrw ni’n galed.

“Er gwaethaf ymdrechion y tîm ymroddedig, nid ydym yn gallu codi’r arian sydd ei angen ar gyfer gwneud y gwaith hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru eleni.

“Er mwyn ailddechrau unrhyw weithgareddau yn yr hydref, mae angen sicrhau bod gennym yr arian i wireddu ein huchelgais ac anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau.”

‘Cyfleoedd newidiodd fy mywyd’

Un o’r aelodau gwreiddiol y côr oedd yr actor Tom Hier sydd bellach wedi ymddangos mewn cynyrchiadau’r West End megis Miss Saigon, Joseph a Footloose.

Mae’n perfformio hefyd gyda’r grŵp Welsh of the West End, a dywed na fyddai’n gwneud yr hyn y mae’n ei wneud heddiw pe na bai am y sgiliau a’r hyder ddatblygodd yn sgil Only Boys Aloud.

“Am y tro cyntaf erioed, mae angen i ni ofyn am roddion cyhoeddus – rydym angen eich help.

“Dw i ddim yn meddwl bod pobol yn ymwybodol fod Only Boys Aloud yn cael ei redeg fel elusen.

“Mae pob sesiwn ymarfer, pob cyngerdd, pob trip am ddim – sy’n brofiad anhygoel i’r bechgyn sy’n cymryd rhan.

“I fi mae Only Boys Aloud yn gymaint mwy na chôr.

“Mae’n frawdoliaeth a gynigiodd gyfeillgarwch, pwrpas a chyfleoedd a newidiodd fy mywyd.”