Mae digwyddiad ar gyfer perfformwyr llafar wedi cael cartref newydd yn Wrecsam.
Mae’r ddinas yn prysur ddod yn ddinas y meic agored a’r gair llafar, gyda nosweithiau’n cael eu cynnal ym mhob cwr o Wrecsam a’r cyffiniau.
Mae sawl noson meic agored yng nghanol y ddinas bellach, gydag eraill yng Nghefn Mawr a hyd yn oed mor bell draw â Llangollen, sydd yn boblogaidd ymhlith trigolion ardal Wrecsam hefyd.
Caiff y digwyddiadau hyn eu trefnu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gyda rhai yn cael eu cynnal gan leoliadau eu hunain, ac eraill yn cael eu trefnu gan sefydliadau annibynnol.
Un sydd wedi’i drefnu’n annibynnol ac yn wirfoddol yw Voicebox, a hynn gan yr artist lleol Natasha Borton.
Bu’r digwyddiad, artistiaid a’u cefnogwyr ffyddlon yn teithio o le i le ers tro, ond nos Lun ddiwethaf (Mehefin 10), cafodd y noson gyntaf ei chynnal yn eu cartref newydd, sef Rough Hands Tap, busnes newydd sydd wedi’i leoli yn Chapter Court yn y ddinas.
Chapter court a Rough Hands Tap
Datblygiad newydd yw Chapter Court, sy’n cael ei ddisgrifio fel “Profiad microfanwerthu newydd yng nghanol Wrecsam” fydd yn “croesawu busnesau newydd, siopau annibynnol a masnachwyr artisan i ganol Wrecsam”.
Fe fu galw am fasnachwyr ymysg y bwrlwm ac optimistiaeth ynghylch potensial Chapter Court i adnewyddu ac aildanio canol y ddinas.
Yn mis Ebrill, cafodd Rough Hands Tap ei hagor gan Andy Gallanders, perchennog Bank Street Social sydd hefyd yn gynghorydd Rhosnesni.
Mae Rough Hands ar agor rhwng 11 o’r gloch y bore ac 11 o’r gloch y nos o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, ac o 11 o’r gloch y bore tan 6 o’r gloch y nos ar ddydd Sul.
Mae Andy Gallanders wedi ehangu’r tîm, gan gyflogi mwy o staff, a’r gobaith yw y byddan nhw ar agor saith diwrnod yr wythnos yn y pen draw.
Siwrne Voicebox
Dechreuodd Voicebox yn bar Un Deg Un yn 2013, ac mae hi wedi trefnu a chynnal llwyfannau mewn lleoliadau a digwyddiadau ar hyd a lled y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys Abaty Valle Crusis, Focus Wales, Tŷ Pawb, Saith Seren, Wrexfest, The Magic Dragon Brewery Tap, ac mewn lleoliadau ‘pop up’ hefyd.
Ond mae’r criw wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i gartref parhaol, sy’n hollbwysig iddyn nhw wrth adeiladu hunaniaeth y criw o berfformwyr ac i gynulleidfaoedd gael dod i arfer â mynychu nosweithiau rheolaidd mewn un lleoliad penodol.
“Dw i wrth fy modd y gall ein criw crwydrol o artistiaid ymgartrefu yn Rough Hands Tap,” meddai Natasha Borton.
“Cyn y pandemig, fe dreulion ni rai misoedd yn Bank Street Social, ac mae’r brodyr Gallanders wedi bod yn gefnogol iawn i Voicebox a barddoniaeth yr ardal yn gyffredinol.
“Bydd cael canolfan ar gyfer ein digwyddiadau misol yn gadael i ni dyfu a dychmygu beth arall y gallwn ei wneud ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.”
Noson yng nghwmni Rhys Trimble
Bu’r noson gyntaf yn un gyffrous i’r criw, sy’n ymfalchïo yn y lleoliad newydd a’r dewis eang o ddiodydd sydd ar gael yno, gan gynnwys diodydd meddal i’r rhai sy’n gyrru ond sydd am gael diod sy’n blasu fel cwrw!
Mae ganddyn nhw ‘biltong’ di-glwten, siocled poeth, a choffi o safon uchel hefyd.
Roedd perfformiadau gan ‘Voiceboxers’ hen a newydd, gan gynnwys perfformiad cyntaf bardd newydd i Voicebox, gan gadw’r traddodiad o gael ‘perfformiad tro cyntaf’ gan rywun ym mhob un noson Voicebox ers y cychwyn.
Ac mae pob noson Voicebox yn darfod efo prif berfformiwr, gyda Rhys Trimble dan sylw y tro hwn.
Dadansoddiad Sara Louise Wheeler
Dechreuodd ei berfformiad wrth iddo osod bagiau McDonald’s ar y byrddau, ac ynddyn nhw roedd darnau o bapur â geiriau amrywiol arnyn nhw.
Dewisodd y cyfieithiad o Rough Hands, sef ‘Dwylo Garw’, fel allweddair ac roedd gofyn i’r gynulleidfa daflu’r bagiau ato pan gafodd y geiriau hyn eu hynganu yn ystod ei berfformiad.
Dechreuodd ddarllen cerdd, ond yn sydyn roedd yn chwifio cleddyf uwch ei ben ac yna’n camu ’nôl a ’mlaen ar hyd yr adeilad hefo ffon farddol gan lafarganu’n ffyrnig. Pan ddaeth yn ôl, bu’n eistedd ar y llawr yng nghanol y bagiau a’u rhwygo, gan blethu geiriau o’r papurau i mewn i’w gerdd lafar.
Yng nghanol hyn i gyd, gwaeddodd ‘Poetry is trash’, gan ennyn llawer o chwerthin gan y gynulleidfa.
Yna, gwaeddodd ‘Cynghanedd sain’! A hynny mor annisgwyl, chwarddais yn uchel, gan achosi sawl un i sbïo arnaf yn syn! Yn wir, ar ddiwedd y noson, gofynnodd sawl un beth oedd Rhys wedi’i ddweud i achosi i mi chwerthin fel’na… ac anodd iawn oedd ceisio esbonio!
Rywsut, fe wnaeth perfformiad Rhys gynnwys rhedeg tu fa’s i’r adeilad a gyrru i ffwrdd yn ei gar hefyd! Ond dychwelodd wedyn a chafwyd trafodaeth am ei siwt flodeuog, cyn i bawb geisio clirio’r darnau bach o bapur oedd ar y llawr ar ôl y perfformiad.
Saesneg yw prif iaith y perfformiadau yn Voicebox, ond mae un neu ddau o berfformwyr yn cynnwys Cymraeg yn rhan o’u slot.
Ar y noson, roedd y bardd amlieithog David Subacchi yn perfformio, ac mae Aled Lewis Evans hefyd yn perfformiwr rheolaidd yno.
Mi wnes innau dechrau fy slot try ganu ‘Y Dŵr bywiol’, sef emyn gafodd ei sgwennu gan John Daniel (alaw) a Carey Jones (geiriau). Mae’r gân, felly, yn un unigryw i Lyfr Emynau Ysgol Morgan Llwyd, ac yn rhan o brosiect newydd sydd gen i ar y gweill.
Ar ddiwedd y noson, gofynnais i’r perchennog Andy Gallanders am unrhyw sylwadau ar y noson, ac fe ddywedodd ei fod yn “falch, wrth gwrs, o roi lle i Voicebox”.
Dywed ei fod “wedi mwynhau’r noson”, ac mai “braf oedd clywed bach o’r iaith Gymraeg”.
“Tydw i ddim yn ei siarad hi, ond mae’n braf ei chlywed hi mewn noson fel hyn,” meddai.