Mae S4C a chonsortiwm ymchwil a datblygu Media Cymru wedi cyhoeddi enwau naw cwmni cynhyrchu fydd yn derbyn hyd at £10,000 o gyllid datblygu fel rhan o gynllun fformatau byd-eang.

Bydd y cwmnïau llwyddiannus yn derbyn cyllid a chymorth arbenigol i ddatblygu syniadau fformat dros y tri mis nesaf, gydag S4C yn anelu at dreialu o leiaf un o’r syniadau llwyddiannus.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn dau weithdy hyfforddi gafodd eu llunio gan bartneriaid ym Mhrifysgol De Cymru i roi gwybodaeth gyfredol y farchnad a chyngor ar ddatblygu fformat i’r ymgeiswyr.

Cafodd y gwersylloedd, gafodd eu cynnal gan Grand Scheme Media, fewnbwn gan arbenigwyr fformat fel Rob Clark, cyn-gyfarwyddwr adloniant rhyngwladol yn Fremantle; Clare Thompson o K7 Media; ac Iain Coyle, cyn-bennaeth adloniant comedi UKTV.

Cafodd data ar gynulleidfaoedd ei gyflwyno i gynhyrchwyr, ac roedd mewnwelediadau comisiynu gan Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C, a Claire Urquhart, Pennaeth Cronfa Cynnwys Masnachol S4C.

‘Alla i ddim aros i weld y syniadau’

Y cwmnïau llwyddiannus yw:

  • Wildflame Productions
  • Rondo Media
  • Chwarel Cyfyngedig
  • Little Bird Films
  • Orchard Media and Events Group
  • Cardiff Productions
  • Tomos TV
  • Tŷ’r Ddraig
  • Boom

“Mae gan S4C hanes o gomisiynu fformatau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Iwan England.

“Mae sawl fformat wedi cael eu gwerthu i ddarlledwyr a thiriogaethau eraill, ac rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.

“Nod y cynllun yw darganfod syniadau sy’n gweithio i gynulleidfaoedd S4C, ond hefyd i weithio i farchnad fformatau byd-eang, tra hefyd yn canolbwyntio ar nod Media Cymru o arloesi trwy ymchwil a datblygu.

“Mae wedi bod yn brofiad creadigol a chydweithredol, ac alla i ddim aros i weld y syniadau ar ôl iddyn nhw gael eu datblygu’n llawn.

“Mae’r diwydiant teledu yn profi newid mawr ar hyn o bryd ac rwy’n credu bod y cyfuniad hwn o hyfforddiant, rhannu gwybodaeth, buddsoddiad a chefnogaeth barhaus yn ymateb gwych ac yn ffordd o bontio’r lleol a’r byd-eang.”

‘Proses gystadleuol’

“Roedd hon yn broses gystadleuol yn dilyn dau weithdy hyfforddi dwys a ariannwyd gan Media Cymru ac a ddarparwyd mewn partneriaeth â Grand Scheme Media ac S4C,” meddai Sara Pepper, Cyd-Gyfarwyddwr Media Cymru.

“Roedd y gwersylloedd hyfforddi yn gyfle unigryw i fusnesau creadigol yng Nghymru ddysgu mwy am greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu ledled y byd.

“Diolch i Media Cymru, bydd y cwmnïau llwyddiannus nawr yn derbyn cyllid a chefnogaeth arbenigol gan Media Cymru, ac yn derbyn arweiniad gan Grand Scheme Media ac S4C wrth  ddatblygu eu syniadau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw nesaf i’r naw cwmni creadigol llwyddiannus a chlywed y syniadau a’r rhaglenni newydd cyffrous sy’n deillio o’r cyfle hwn.”