Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r cwpl buddugol yng nghystadleuaeth Priodas Pymtheg Mil ddyddiau’n gynt na’r disgwyl, wedi i ganllawiau’r gystadleuaeth gael eu “torri’n ddamweiniol”, medd y sianel.

Aled Johnson a Malin Gustavsson o Foncath, Sir Benfro fydd yn cael gwireddu eu priodas berffaith yn y rhaglen arbennig.

Er bod Aled a Malin wedi dyweddïo fis Awst 2015, rhesymau ariannol oedd yn eu hatal rhag gwireddu’r freuddwyd.

Gan fod Malin yn wreiddiol o Sweden, dymuniadau’r ddau yw cael ei theulu’n bresennol er mwyn iddyn nhw fod yn rhan o’r achlysur, boed hynny yn Sweden neu yng Nghymru.

Torri canllawiau

Ar eu cyfrif Facebook, dywed S4C y bu’n rhaid “ffarwelio â Teresa a Rutger”, sy’n rhedeg tafarn yn Llanrug, Gwynedd gan nad oedden nhw bellach yn gymwys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.

Y nod wreiddiol oedd fod y bleidlais gyhoeddus am gau ddydd Gwener (Mehefin 21).

“Yn ddamweiniol fe dorrwyd y canllawiau sy’n ymwneud ag annog pobol i bleidleisio,” meddai S4C mewn datganiad.

“Mae hyn yn golygu bod y bleidlais wedi’i chyfaddawdu.

“Er tegwch i’r cwpwl arall sy’n rhan o’r gystadleuaeth, ac er mwyn cynnal ymddiriedaeth ein gwylwyr yn S4C, rydym wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ddod â’r gystadleuaeth i ben.

“Rydym yn dymuno pob hwyl ac hapusrwydd i Teresa a Rutger, ac rydym yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw yn sgil y penderfyniad.

“Edrychwn ymlaen at helpu i wireddu dymuniadau priodas y pâr llwyddiannus, Aled a Malin, yn ddiweddarach eleni.”