Roedd nifer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg i’w clywed ar wefusau’r gantores fyd-enwog Taylor Swift yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mehefin 18), ac mae hi wedi cael cryn ymateb.

Roedd 68,000 o ‘Swifties’ yn y dorf, a chafodd y gantores ymateb byddarol wrth iddi gyfarch y gynulleidfa gyda’r ymadrodd ‘Shwmae’.

Cafodd y Gymraeg ei defnyddio ar lwyfan rhyngwladol sawl gwaith wedyn, wrth iddi annerch y dorf gan ddweud, “Croeso i daith Eras”.

Cafodd yr ymadrodd “ych a fi” ei ddefnyddio gan un o’i chyd-berfformwyr yn y gân ‘We Are Never Ever Getting Back Together’.

Dyma unig noson Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd fel rhan o daith Eras, ac mae hi’n perfformio mewn pymtheg o gyngherddau eraill ledled gwledydd Prydain.

‘Cyfarch miloedd yn Gymraeg’

Mae’r gwasanaeth Helo Blod, sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu busnesau ac elusennau i gyfieithu dros filiwn o eiriau i’r Gymraeg.

Gall busnesau ddefnyddio’r gwasanaeth cynghori a chyfieithu drwy chwilio am ‘Helo Blod’, neu ffonio 03000 25 88 88.

Dywed y Llywodraeth ei bod hi’n “ffantastig gweld Taylor Swift, un o bobol enwocaf y byd, yn cyfarch miloedd yn Gymraeg”.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae’n siŵr fod hynny i’w deimlo’n gryf i bawb oedd yn y stadiwm nos Fawrth,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Fel Llywodraeth, mae gyda ni nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chynlluniau ymarferol i wireddu hyn.

“Mae hyn yn cynnwys cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc a’r gweithlu addysg, a darparu gwasanaeth cyfieithu a chynghori am ddim i helpu busnesau ac elusennau i ddefnyddio mwy o Gymraeg.”

Mae Helo Blod yn wasanaeth rhad ac am ddim gan y Llywodraeth, sy’n darparu cynghorion ynglŷn â chyfieithiadau a sut i ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnesau a sefydliadau.