Mae Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris a Pedair ymysg y bandiau fydd yn chwarae yn gigs Cymdeithas yr Iaith ym Mhontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Cyhoeddodd Dylan Jenkins, trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni, rai o’r artistiaid fydd yn chwarae yn gigs y mudiad eleni, wrth ymddangos ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru neithiwr (nos Iau, Mehefin 20).
Bydd y gigs yn cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, sydd hanner milltir o Faes yr Eisteddfod a hanner milltir o’r orsaf reilffordd, gyda digwyddiad bob nos yn ystod yr Eisteddfod, gan ddechrau ar y nos Sadwrn.
“Dw i’n hynod gyffrous i gyhoeddi artistiaid cyntaf lein-yp Gigs Cymdeithas eleni,” meddai Dylan Jenkins.
“Dw i’n siŵr y bydd yn wythnos anhygoel o gerddoriaeth amrywiol, gyda rhywbeth i bawb.
“Dyn ni’n falch iawn i allu rhoi llwyfan i fandiau ifanc, artistiaid profiadol ac ambell i enw mawr iawn.
“Dyn ni wedi gweithio’n agos gyda thîm o wirfoddolwyr o’r ardal, a gyda Chlwb Rygbi Pontypridd, i sicrhau fod wythnos anhygoel o gerddoriaeth Cymraeg o’n blaenau fydd yn cyfrannu at brofiad yr Eisteddfod yn ogystal a rhoi hwb i’r gymuned yn lleol a’r clwb.”
Yr amserlen
Yn agor yr wythnos fydd noson gydag artistiaid Prosiect Forte, sydd â’i wreiddiau yn Rhondda Cynon Taf, ac sy’n rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Bydd y noson yn arddangos artistiaid hen a newydd y prosiect, gan gynnwys Mali Hâf, skylrk a Francis Rees.
Yn ogystal â’r gerddoriaeth, bydd Bragdy’r Beirdd yn dychwelyd, gan addo noson llawn hwyl a digrifwch dan arweiniad Ifor ap Glyn, a thros ugain o feirdd, ar nos Fawrth, Awst 6.
I gloi’r wythnos, bydd Gareth Potter (Tŷ Gwydr, Traddodiad Ofnus) yn atgyfodi ei barti dawns ef a Mark Lugg o’r 90au, REU, mewn teyrnged i’r diweddar Emyr Glyn Williams, Ankst.
Bydd £5 o werthiant pob tocyn ar gyfer y noson yn mynd at elusen.
Bydd y noson hefyd yn croesawu DJs blaengar i’r llwyfan, fel Cian Ciaran (Das Koolies, Super Furry Animals), System Sain Tŷ Gwydr, a’r artistiaid electronig Ffrancon a Keyala.
I ddathlu’r lansiad, bydd nifer cyfyngedig o docynnau wythnos ar gael am gyfnod byr ar wefan y Gymdeithas, a rheiny’n rhoi mynediad i’r wyth noson.