Mae ymgyrchwyr sy’n galw am ailagor rheilffyrdd yng Nghymru wedi croesawu’r ddadl fydd yn cael ei chynnal ar y mater yn y Senedd.
Ddydd Llun diwethaf (Mehefin 10), cytunodd y Pwyllgor Deisebau y dylai’r ddeiseb i ailagor hen gysylltiadau rheilffordd rhwng Bangor, Caernarfon ac Afonwen a rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin gael eu trafod mewn dadl lawn ar lawr y Senedd.
Cafodd y ddeiseb â 12,936 o lofnodion arni ei chyflwyno gan Elfed Wyn ap Elwyn, cynghorydd Gwynedd, fu’n cerdded 206 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd y llynedd fel rhan o ymgyrch Traws Link Cymru i adfer ac adeiladu rheilffyrdd newydd.
Roedd y ddeiseb yn galw am:
- Astudiaeth Gwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer Rheilffordd Bangor i Afon Wen
- ymrwymiad i wario unrhyw arian ar gyfer y rheilffyrdd o San Steffan ar adfer y rheilffyrdd
- datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd ar y llwybr arfaethedig
- edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru fyddai’n fuddiol ar lefel genedlaethol a lleol i’w hailagor
‘Cam mawr ymlaen’
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r ymgyrch,” meddai Mike Walker, cadeirydd Traws Link Cymru am y ddadl.
“Ar ben hynny, mae’n galonogol gweld bod astudiaeth ddichonoldeb, fel yr un gafodd ei chynnal ar y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, bellach yn cael ei chynnal ar y cysylltiad rhwng Afon Wen a Bangor yng ngogledd Cymru.”
Mae lle i gredu mai £2bn fyddai cost ailagor y llinellau dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Er bod y pwyllgor yn nodi bod hynny’n swm mawr o arian, fe wnaethon nhw nodi bod hwn yn hanner yr arian sy’n ddyledus i Gymru o dan Fformiwla Barnett yn dilyn terfynu HS2.
Dydy’r pwyllgor ddim wedi nodi amserlen ar gyfer y ddadl yn y Senedd, ond gallai gael ei chynnal ddechrau’r hydref, gyda’r astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chwblhau erbyn hynny.
Yr awgrym yw y dylai’r ddadl ddilyn canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cysylltiad gogledd Cymru, ond pe na bai hynny’n digwydd erbyn dechrau’r hydref, y dylai’r ddadl fynd yn ei blaen beth bynnag.