Mae Gwlad yr Iâ yn dathlu 80 mlynedd fel gwlad annibynnol heddiw (dydd Llun, Mehefin 17).

Roedd y wlad, gafodd ei sefydlu gan forwyr, yn annibynnol tan 1262, pan ddaeth o dan reolaeth coron Norwy, a hithau’n Oes y Sturlungar, oedd yn gyfnod o wrthdaro gwleidyddol.

Yn 1380, cafodd Gwlad yr Iâ ei gwladychu gan Ddenmarc tan 1918, pan ddaeth yn wladwriaeth sofran.

Ond bu’n rhaid aros tan 1944 iddi ddod yn annibynnol, ac fe fu dathliadau mawr ger safle Thingvellir, sef lleoliad senedd hynafol Gwlad yr Iâ, Althinghi, gafodd ei sefydlu yn 930.

Mae Thingvellir bellach yn barc cenedlaethol ac yn safle treftadaeth UNESCO a chanddo gofeb i Jon Sigurdsson, un o arwyr yr ymgyrch dros annibyniaeth sy’n cael ei gofio ar Fehefin 17 bob blwyddyn, ond a fu farw cyn i Wlad yr Iâ ennill ei hannibyniaeth.

Mae cofeb iddo hefyd ger senedd Gwlad yr Iâ yn Reykjavik.

Sut mae dathlu’r diwrnod?

Yn draddodiadol, mae’r diwrnod o ddathliadau’n gyfle hefyd i ymfalchïo yn nhraddodiad barddol y wlad.

Mae’r dathliadau fel arfer yn dechrau yn Reyjkjavic, lle caiff clychau eglwysi eu canu am 10 o’r gloch y bore.

Awr yn ddiweddarach, caiff seremoni agoriadol ei chynnal yn Sgwâr Austurvöllur, lle mae’r arlywydd yn gosod torch o flodau ger cofeb Jon Sigurdsson, cyn i’r prif weinidog wneud anerchiad.

Traddodiad ‘Dynes y Mynydd’

Bob blwyddyn, caiff unigolyn ei dewis i fod yn “Ddynes y Mynydd” ar gyfer y dathliadau.

Hi yw’r un sydd wedi’i dewis i fod yn ymgorfforiad o’r wlad, ac mae’n cael ei gwisgo yn y wisg genedlaethol cyn adrodd cerdd neu araith o’i dewis yn ystod y seremoni agoriadol.

Ar ddiwedd y seremoni honno, caiff gorymdaith ei chynnal drwy Reykjavik ac mae’n cael ei hail-greu mewn trefi eraill cyn i gyfres o ddathliadau gael eu cynnal ym mhob cwr o’r wlad yn ystod diwrnod i’r teulu.

Ymhlith y digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal mae cystadleuaeth y Dyn Cryfaf a’r Ddynes Gryfaf, a pherfformiadau gan gerddorion, digrifwyr a dawnswyr.