Mae Reform UK, plaid wleidyddol Nigel Farage yn “ecsbloetio pryderon dilys pobol go iawn”, yn ôl cyn-Brif Weithredwr YesCymru.

Daw sylwadau Gwern Gwynfil wrth iddyn nhw baratoi i lansio’u maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym Merthyr Tudful heddiw (dydd Llun, Mehefin 17).

Maen nhw’n dweud bod Cymru’n enghraifft o’r hyn sy’n digwydd pan fo Llafur mewn grym, a bod ganddyn nhw eu hunain “gytundeb” i’w gynnig i Gymru.

Ymhlith eu haddewidion mae rhewi mewnfudo diangen, torri’r dreth incwm a gwario mwy ar amddiffyn, ac maen nhw’n dweud bod Cymru wedi cael ei “hanwybyddu ers datganoli” gan Lundain a Llafur, a bod y Ceidwadwyr “wedi cyflawni dim byd” fel gwrthblaid yn y Senedd.

“Os ydych chi eisiau darlun o sut fydd y wlad gyfan gyda llywodraeth [Syr Keir] Starmer a gwrthblaid Geidwadol wan, dewch i Gymru,” meddai Nigel Farage ar drothwy ei ymweliad.

Mae Llafur yn dweud bod Reform UK yn “ceisio creu rhaniadau”, tra bod y Ceidwadwyr wedi amddiffyn eu record fel gwrthblaid.

Yn ôl Plaid Cymru, mae Nigel Farage yn manteisio ar Gymru i “roi hwb i’r ‘fi fawr” ac “wedi gwerthu celwyddau i bobol mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn y gorffennol ac am wneud hynny eto”.

“Does gan Nigel Farage ddim diddordeb ynoch chi,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.

“Does ganddo fo ddim diddordeb yn eich cymuned.

“Dim ond ynddo fo ei hun mae ganddo fo ddiddordeb.”

Dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod Nigel Farage yn “ddyn busnes olew neidr sydd eisiau symud y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fodel sy’n seiliedig ar yswiriant – rhywbeth nad yw’n debygol fyth o apelio at y cyhoedd yng Nghymru”.

“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n parhau i ymgyrchu dros ddatrysiadau go iawn i’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu, gan gynnwys ceisio trwsio’r argyfwng gofal cymdeithasol er mwyn achub ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

‘Plaid miliwnyddion cas ac aristocratiaid ffug’

Yn ôl Gwern Gwynfil, byddai Henry Richard a Keir Hardie, dau ffigwr hanesyddol o bwys yn hanes ardal Merthyr Tudful, “wedi’u ffieiddio” fod Nigel Farage yn dewis y fan honno i lansio maniffesto ei blaid.

“Mae Reform UK, plaid miliwnyddion cas ac aristocratiaid ffug, gyda chefnogaeth biliwnydd, yn lansio’u ‘rhaglen’ yng Nghymru, gan ddewis Merthyr Tudful, etholaeth Henry Richard, yr apostol heddwch, a Keir Hardie, ffigwr Llafur chwedlonol,” meddai ar X [Twitter gynt].

“Byddai’r ddau wedi’u ffieiddio gan agweddau [Richard] Tice, [Nigel] Farage, [Lee] Anderson ac ati.

“Bydden nhw’n adnabod y boblyddiaeth wenwynig a deheuig.

“Bydden nhw’n condemnio’r cwmni cyfyngedig hwn fel yr un ffug yw e, wedi’i arwain gan y rheiny sy’n ecsbloetio pryderon dilys pobol go iawn.

“Mae’n drist fod y cyfryngau a rhai o’n gwleidyddion presennol yn eu porthi nhw oherwydd ofn, yn hytrach na chondemnio eu hymddygiad drwy daflu golau mawr ar realiti eu natur a’u tactegau.

“Dylai pawb geisio dweud y gwirioneddau a diberfeddu’r siarlataniaid hyn.”