Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig yn y Senedd ddydd Mercher (Mehefin 19), yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu ynni niwclear yng Nghymru.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae “buddion gwych” i ynni niwclear, sy’n chwarae rhan “anhygoel” wrth greu swyddi sy’n talu’n dda.
Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi dangos eu hymrwymiad i ynni niwclear trwy atal trident y Deyrnas Unedig, ynghyd â’u hymrwymiad i ddarparu pwerdy gigawat newydd yn Wylfa yn Sir Fôn, medden nhw.
Maen nhw bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru am ragor o gydweithio er mwyn darparu “ynni rhatach, glanach a mwy diogel” gan weithio tuag at dargedau sero-net.
Y cynnig
Mae’r cynnig, fydd yn cael ei drafod ddydd Mercher, yn awgrymu y dylai’r Senedd:
- ddathlu’r rôl mae ynni niwclear yn ei chwarae wrth greu swyddi â chyflog da a sgiliau uchel, tra’n darparu ynni rhatach, glanach a mwy diogel, gan weithio tuag at dargedau sero-net
- croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atal trident.
- croesawu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu pwerdy gigawat newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni prosiectau presennol yn Hinkley Point a Sizewell.
- galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu ynni niwclear yng Nghymru.
‘Manteision gwych’
“Rwy’n croesawu’r gwaith anhygoel a wnaed gan Virginia Crosbie yn Ynys Môn, ynghyd â Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, gan roi hwb i’r sector niwclear yng ngogledd Cymru,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd Newid Hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Pan fo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi mewn niwclear, fe wnaeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru dorri cyllid i’r prosiect niwclear yn Nhrawsfynydd.
“Yn y Senedd yr wythnos hon, rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fanteision gwych ynni niwclear, tra’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu ynni niwclear yng Nghymru.”
Wrth drafod y mater yn ystod dadl yr arweinwyr yng Nghymru, dywedodd Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru eu bod nhw’n cefnogi cynnal safleoedd niwclear presennol yng Nghymru, ond yn gwrthwynebu safleoedd newydd gan ffafrio dulliau ynni amgen.