Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn rhybuddio am argyfwng gweithlu gofal canser yng Nghymru.

Yn ôl adroddiadau, mae Cymru yng nghanol argyfwng, gyda diffyg o 34% o ran radiolegwyr clinigol a diffyg o 12% o ran oncolegwyr clinigol.

Os na chaiff camau eu cymryd ar unwaith, maen nhw’n rhagweld y bydd diffygion y gweithlu mewn radioleg glinigol yn codi i 28% ac oncoleg glinigol i 38% erbyn 2028 – y diffyg mwyaf o blith pedair gwlad Prydain.

Mae oedi o ran canlyniadau profion a chychwyn triniaeth bellach yn arferol yng Nghymru, medd Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, sydd â dim ond 6.1 radiolegydd ym mhob 100,000 o bobol.

Codi’r risg o farwolaeth

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn rhagweld y bydd bron i chwarter (24%) ymgynghorwyr oncoleg glinigol yng Nghymru yn ymddeol dros y pum mlynedd nesaf, sy’n uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (18%).

Mae hyfforddeion yn cyfrif am 29% o weithlu oncoleg clinigol Cymru, o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig (32%).

Mae pob cyfarwyddwr clinigol yng Nghymru yn adrodd nad oes digon o radiolegwyr clinigol i sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion.

Yn ogystal, mae pob canolfan ganser yng Nghymru yn wynebu oedi arferol wrth ddechrau triniaeth ac yn cael trafferth i reoli’r galw cynyddol gyda’r gweithlu presennol, gan ddibynnu ar ewyllys da a defnyddio locwm i ymdopi.

Mae’n hanfodol bod cleifion yn cael eu trin yn amserol, yn ôl y Coleg, gan fod pob mis o oedi mewn triniaeth canser yn codi’r risg o farwolaeth gan ryw 10%.

Dadwneud degawdau o gynnydd mewn gofal canser

Gyda Chynllun Gwella Canser Cymru Llywodraeth Cymru ar y gweill ers blwyddyn bellach, mae un ymgynhorydd canser yn dweud na allan nhw barhau i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Ni allaf amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mwyach fel system gofal iechyd rhagorol,” meddai ymgynghorydd nad yw am gael ei enwi.

“Rydyn ni i gyd yn methu, ac wrth wneud hynny yn methu ein cleifion.”

Mae’r Coleg wedi ysgrifennu at ysgrifennydd y cabinet yn rhybuddio, heb ymyrraeth ar unwaith, fod perygl y bydd Cymru’n dadwneud degawdau o gynnydd mewn gofal canser.

Maen nhw’n mynnu buddsoddiad brys yn natblygiad y gweithlu i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu gadael yn aros am ddiagnosis ac yn gallu dechrau triniaeth achub bywyd cyn gynted â phosibl.

Ar ben hynny, maen nhw’n galw ar bwy bynnag sy’n ffurfio’r Llywodraeth nesaf yn San Steffan i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i nodi sut maen nhw’n bwriadu recriwtio, hyfforddi a chadw oncolegwyr a radiolegwyr clinigol, gan sicrhau sefydlogrwydd a chryfder y gweithlu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r adroddiadau yn rhoi realiti llym: mae’r argyfwng yng ngweithlu radioleg ac oncoleg Cymru yn peryglu iechyd cleifion,” meddai Dr Katharine Halliday, Llywydd Coleg Brenhinol y Radiolegwyr.

“Er gwaethaf ein hymrwymiad i ddarparu’r gofal gorau, mae prinder staff difrifol yn rhwystro ein hymdrechion yn sylweddol.

“Yn syml, nid oes gennym ddigon o feddygon i reoli’r nifer cynyddol o gleifion yn ddiogel, a bydd y mater hwn yn gwaethygu wrth i’r galw gynyddu a mwy o feddygon yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae’r straen aruthrol ar system sydd wedi’i orlwytho, ynghyd â staff sydd wedi blino’n lân a’r galw cynyddol yn creu cymysgedd gwenwynig ar gyfer y system gofal iechyd yng Nghymru.

“Mae gweithredu brys gan lywodraethau’r pedair gwlad yn hanfodol.

“Rhaid i ni flaenoriaethu recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon a gweithredu strategaethau i gadw ein gweithlu presennol.

“Mae amser yn hollbwysig.

“Mae meddygon yn gweithio dan straen eithafol ac yn poeni’n fawr am eu cleifion.

“Rydym yn galw ar lywodraethau pob un o’r pedair gwlad i ailosod y system, achub ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal o ansawdd y maen nhw’n ei haeddu.”