Wrth i’r Etholiad Cyffredinol agosáu, mae’r pleidiau wedi bod yn datgan eu hymrwymiadau i ffermio pe baen nhw’n cael eu hethol.

Yn eu mysg mae cynyddu cyllidebau amaethyddol, ailagor cytundeb masnach Awstralia a gohirio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Daw hyn yn dilyn cyfnod o anghydfod a phrotestio, wedi i Lywodraeth Cymru rannu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir er mwyn bod yn gymwys am gymorth ariannol.

Dyma gip ar yr hyn mae’r pleidiau yng Nghymru wedi’i addo hyd yn hyn…


Y Ceidwadwyr

Wrth lansio’u maniffesto, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn “falch o sefyll gyda’r miloedd sydd wedi mynychu protestiadau ar draws Cymru”.

Mae’r blaid wedi ymrwymo i gynyddu’r buddsoddiad mewn ffermio ledled y Deyrnas Unedig gan £1bn dros y pum mlynedd nesaf.

Ar ben hynny, dywed y blaid eu bod nhw am sicrhau bod y cyllid sy’n cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr Cymru yn cynyddu gyda chwyddiant.

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, mae’r Ceidwadwyr am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru’n cael ei wrthdroi a’i ailgynllunio hefyd.

Plaid Cymru

Blaenoriaeth Plaid Cymru yw diogelu dyfodol ffermydd teuluol Cymru.

Dywed y Blaid y bydden nhw’n rhoi feto i Gymru dros gytundebau masnach sy’n tanseilio cymunedau amaethyddol y wlad yn y dyfodol.

Mae’r Blaid hefyd yn galw am ostyngiad yn y camau cyffredinol sydd eu hangen i gael mynediad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ogystal â symud i ffwrdd o’r model ariannu ‘costau y mae’r costau a godwyd/incwm a ragnodwyd’, i system sy’n “cydnabod y gwerth cymdeithasol mae’r sector amaethyddol yn ei wneud i’r Gymraeg, diwylliant a’r economi leol”.

Gan weithio gyda’r undebau, maen nhw’n gobeithio sicrhau y bydd y cynllun yn cael ei ohirio am flwyddyn a’i adolygu.

Llafur

Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru yn ymwneud â “chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd a thanategu ein cymunedau gwledig, tra hefyd yn goresgyn yr argyfyngau hinsawdd a natur”.

Ychwanega’r blaid fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn “allweddol i gyflawni hyn”.

Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n “parhau i weithio mewn partneriaeth â’r gymuned ffermio, grwpiau amgylcheddol ac eraill i gwblhau cynllun sy’n gweithio yn y tymor hir”.

Y Blaid Werdd

Yn eu maniffesto nhw, mae’r Blaid Werdd yn dweud y bydden nhw’n treblu’r arian sy’n cael ei wario ar amaethyddiaeth yn San Steffan, “gyda chyllid cyfatebol ar gael i Lywodraeth Cymru” er mwyn “cefnogi’r newid i ffermio cynaliadwy”.

Mae’r blaid hefyd yn dweud y bydden nhw’n cydweithio â ffermwyr ac eraill i “drawsnewid ein system fwyd a ffermio” gyda “chyflogau teg i dyfwyr”.

Eu nod yw cynyddu faint o fwyd sy’n cael ei dyfu a’i fasnachu yn y Deyrnas Unedig, “mor lleol â phosib”.

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Blaenoriaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw “gwneud y gorau dros ffermio yng Nghymru”.

Un o’r prif bwyntiau ym maniffesto’r blaid yw cynyddu cyllidebau amaethyddol y Deyrnas Unedig gan £1bn.

Maen nhw hefyd yn galw am ganiatáu recriwtio gweithwyr angenrheidiol mewn ffermio, pysgota a phrosesu bwyd trwy gael gwared ar drothwyon cyflog fisa.

Bwriad arall yw ailagor cytundeb masnach Awstralia i atal torri safonau gwledydd Prydain, a sicrhau ymrwymiadau newid hinsawdd Awstralia.

Reform UK

Dywed Reform UK eu bod yn cydnabod “pwysigrwydd hanfodol” amaethyddiaeth i economi Cymru, yn ogystal â’r “heriau” sy’n wynebu ffermwyr.

Maen nhw’n “anelu at sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth Cymru” drwy gynyddu’r gyllideb ffermio i £3bn.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cael gwared ar “gymorthdaliadau ffermio sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd nad ydyn nhw o fudd uniongyrchol i gynhyrchu bwyd”, a’u disodli â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â lleihau’r “baich biwrocrataidd ar ffermwyr”.