Bydd stori a gweddi’n cael eu cyhoeddi bob dydd am y 150 diwrnod nesaf tan bod Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 oed.

Mae’r straeon i gyd yn ymwneud â sut mae’r mudiad wedi helpu pobol fregus yng Nghymru.

Byddan nhw’n dathlu eu pen-blwydd ar Dachwedd 15.

Ymhlith y straeon fydd yn cael eu rhannu mae eu rhan yn nhrychineb Aberfan wrth gydweithio â’r gwasanaethau brys, a digwyddiad yn 1879 pan ddaeth 5,000 o bobol ynghyd ar strydoedd Pentre yng nghymoedd y de i gefnogi’r Capten Louisa Lock a thri aelod o’i heglwys ar eu ffordd i’r carchar am bregethu yn y dref.

Mae stori arall yn ymwneud ag Agnes Swain, oedd wedi sefydlu cartref i fenywod yng Nghaerdydd yn 1922, ar ôl cael ei hysbrydoli gan waith y sefydliad i warchod menywod Llundain rhag Jack the Ripper.

‘Carreg filltir bwysig’

“Wrth i ni ddathlu pen-blwydd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru yn 150 oed, rydym yn dathlu’r cyfraniad positif mae ein haelodau wedi’i wneud i’w cymunedau dros y blynyddoedd, a byddwn yn gweddïo bod y weinidogaeth hon yn parhau i gael effaith drawsnewidiol ledled y genedl,” meddai Jonathan Roberts, Cadlywydd Rhanbarthol Cymru.

Enw’r flwyddyn o ddathliadau eleni yw ‘Dyma Gariad’, ac mae lle amlwg i’r Gymraeg yn y dathliadau.

“Ar achlysur ein pen-blwydd yn 150 oed, rydym yn cydnabod mewn ffyrdd newydd bwysigrwydd siarad, canu a gweddïo yn Gymraeg, gyda mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnwys y Gymraeg yn ein gwaith,” meddai’r Capten Kathryn Stowers, Swyddog Eciwmenaidd Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe fu blwch gweddïau’n teithio ledled Cymru i roi cyfle i eglwysi a’u cymunedau fyfyrio, rhannu straeon a cheisio llais Duw.