Mae dwy hosbis plant Cymru wedi dadorchuddio iâr fach yr haf enfawr ar risiau’r Senedd, wrth iddyn nhw alw eto ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer yr hosbisau.

Mae’r gwaith celf, gafodd ei greu’n rhannol gan blant y ddwy hosbis, yn cynnwys 3,655 o ieir bach yr haf, sy’n cynrychioli nifer y plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cefnogi un ym mhob deg o blant yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o gyflwr sy’n byrhau bywyd.

Arddangos eu hiâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau’r Senedd yw’r cam diweddaraf yn eu hymgyrch pum mlynedd i gael Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 21% o’u costau gofal blynyddol.

Ar hyn o bryd, mae hosbisau plant yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn derbyn rhwng 30% a 50% o’u costau gofal blynyddol gan eu llywodraethau priodol.

Dim ond 12% o’u costau gofal blynyddol mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, ar y cyd, yn ei dderbyn yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Ymgyrchu am ‘ddyfodol diogel’

Mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith wedi ysgrifennu ar y cyd at y Prif Weinidog Vaughan Gething ac Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn galw unwaith eto am gyllid cynaliadwy ar gyfer y ddwy hosbis.

“Yn 2021/22 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ateb ein cais i ariannu 21% o’n costau gofal ar gyfer hosbisau plant Cymru,” meddai Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan.

“Fodd bynnag, mewn termau real, mae’r cyllid rheolaidd hwn erbyn hyn wedi gostwng i ychydig llai na 12% o gostau gofal yr hosbisau.

“Yn 2023 fe wnaethom ni lansio adroddiad ‘Tueddiadau o ran y Nifer o Achosion a’r Cymhlethdod’. Dangosodd yr adroddiad hwnnw fod 3,655 o blant yng Nghymru â chyflwr sy’n byrhau bywyd.

“Mae’r nifer wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd ac mae’n parhau ar drywydd ar i fyny.

“Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru arnom ni i ymdopi â’r angen am ein gwasanaethau, a chostau, ein gwasanaethau.”

“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni wneud mwy,” meddai Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Tŷ Gobaith.

“Rydyn ni’n gwybod fod yn rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd y 3,655 o deuluoedd sydd wedi gorfod cael y sgwrs nad ydych chi byth eisiau ei chael ac sy’n chwilio’n daer am gefnogaeth.

“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddarparu cefnogaeth, gwasanaethau a gwên i fwy o’r 3,655 o deuluoedd sy’n ofnus, yn ynysig, wedi’u llethu ac sy’n wynebu bob dydd gan ofni y gallai fod yn ddiwrnod olaf eu plentyn, gwasanaethau y mae teuluoedd yn eu galw’n achubiaeth.

“Yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i roi’r cymorth, yr help a’r arian i ni fel y byddwn ni yma ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atom. I gyflawni’r addewid hwnnw.

“I roi’r cyllid cynaliadwy a’r dyfodol diogel i ni gefnogi pob plentyn a theulu sydd ein hangen ni, heddiw ac yn y dyfodol.”

Stori Daniel a Bedwyr

Cafodd Daniel, mab Jonanthan Bugg, o’r Barri, ddiagnosis o ganser angheuol ddwy flynedd yn ôl i fis Awst diwethaf.

Bu farw yn Nhŷ Hafan ar Fawrth 1 yn 16 oed.

“Dydy marw ddim yn urddasol, ond fe roddodd Tŷ Hafan urddas i Daniel,” meddai ei dad Jonathan, cyn-reolwr Maes Awyr Cymru Caerdydd.

“Rhoddodd Tŷ Hafan amser iddo gyda’i deulu, ac roedd modd i fy ngwraig Catherine a minnau fod yn fam a thad iddo, nid ei ofalwyr.

“Mae ysbytai yn gallu bod yn eithaf amhersonol, ond fe wnaeth Tŷ Hafan sicrhau bod Daniel yn fe ei hun tan y diwedd.

“Fyddwn i ddim yn dymuno ein profiad ni ar unrhyw un, ond i unrhyw un sydd yn gorfod mynd drwy ein profiad ni, byddwn i’n dymuno iddynt gael gwasanaethau Tŷ Hafan.”

Un o’r plant sy’n dibynnu ar ofal hosbis yn Nhŷ Gobaith yw Bedwyr Davies, sy’n naw oed ac o Lanrwst.

Cafodd Bedwyr ddiagnosis o’r cyflwr genetig syndrom Coffin-Siris, cyflwr sy’n achosi anabledd dysgu sylweddol.

Mae hefyd yn cael ei fwydo gan diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw’n gallu siarad.

“Mae bod yn rhieni i blentyn ag anghenion cymhleth yn anodd,” meddai Nerys Davies, ei fam.

“Mae’n newid bywyd mewn gwirionedd.

“Mae’r dyddiau pan oeddwn i’n gallu picio draw i’r siop am laeth wedi hen fynd, gan fod angen trefnu tripiau.

“Caiff swper ei ruthro er mwyn i chi allu rhoi meddyginiaethau, gwylio drosto neu wneud ei ofal personol.

“Mae cwsg yn aflonydd ac mae’r nosweithiau’n hir ac yn frawychus pan fydd yn sâl.

“Mae gofal seibiant yn ein galluogi i wneud pethau heb lawer o rybudd – mynd am dro yn y goedwig, i siopa, cwrdd â theulu a ffrindiau am ginio…

“Mae gofal seibiant yn rhoi cyfle i ni gael pryd poeth heb unrhyw darfu, noson dda o gwsg gan wybod fod staff Tŷ Gobaith yno yn gofalu am eich plentyn, a’r cyfle i ailwefru eich batris gan nad ydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i’ch wynebu.

“Pan mae ein plant yn sâl, mae’r gofal rydyn ni’n ei roi gartref neu hyd yn oed yn yr ysbyty yn aruthrol.

“Mae angen seibiant arnon ni i sicrhau ein bod ni’n gallu bod yno i’n plant yn gorfforol ac yn feddyliol. Heb seibiant, byddai llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng.

“Fy nymuniad i fyddai bod pob teulu sydd mewn sefyllfa debyg yn cael cefnogaeth eu hosbis plant, gan ei fod wir yn gwneud gwahaniaeth i bob un ohonon ni.”