Mae awdur deiseb rheilffyrdd yn anelu at sicrhau astudiaeth dichonoldeb ar gyfer rheilffordd rhwng y gogledd a’r de.

Mae Elfed ap Elwyn yn galw am rwydwaith trenau yng ngorllewin Cymru, fel na fydd rhaid i deithwyr yng Nghymru deithio trwy Loegr, na chymryd rhai oriau i deithio o un lle i’r llall yng Nghymru.

Dywed cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Bowydd a Rhiw ei fod yn dymuno gweld rheilffordd rhwng Afon Wen a Bangor, ac ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac o Gaerwen i Amlwch, fel y byddai llinell yn rhedeg o Amlwch yn y gogledd i Gaerdydd yn y de.

Bydd ei ddeiseb yn mynd gerbron Pwyllgor Deisebau’r Senedd ddydd Llun, Tachwedd 13, a gofyn am astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y darn rhwng Afon Wen a Bangor yw’r nod yn y lle cyntaf.

“Maen nhw’n mynd i benderfynu efo’r ddeiseb beth yw’r camau nesaf ymlaen,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n gobeithio gwneith o fynd o flaen y Senedd gyfan, rwy’n gobeithio wedyn y bysai’n arwain at drafodaeth ryngbleidiol.

“Er bod y ddeiseb yn gofyn am ailagor y llinellau trên rhwng gogledd a de Cymru, beth rwy’n anelu ato yw astudiaeth dichonoldeb.

“Yn bennaf, rwyf eisiau astudiaeth o Afon Wen i Fangor.

“Mae yna astudiaeth wedi cael ei wneud yn barod o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

“Beth rwy’n gobeithio cael yw astudiaeth o Afon Wen i Fangor, a rhyw drosolwg astudiaeth sy’n edrych wedyn ar y cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru.

“Ond hwyrach rwy’n gofyn gormod efo hynny – jest dechrau efo astudiaeth dichonolrwydd o Afon Wen i Fangor.

“Rwy’n gobeithio ei fod yn mynd o flaen y Senedd neu bo nhw efo arian yn barod a’u bod nhw’n gallu mynd â fo’n syth o’r fan yna.

“Yn y pen draw, jest gobeithio fyddan ni’n gallu cael astudiaeth ohono fo.

“Oherwydd bod Aberystwyth i Gaerfyrddin wedi’i wneud eisoes, rwy’n gobeithio y bysa astudiaeth rhwng Bangor ac Afon Wen yn dod yn eithaf naturiol ac yn eithaf hawdd.”

Costau astudiaeth

Yn ôl Elfed ap Elwyn, mae cryn gost ynghlwm wrth sicrhau astudiaeth – “dipyn o filoedd,” meddai.

“Os rwy’n cofio’n iawn, astudiaeth Caerfyrddin i Aberystwyth, ryw £30,000 oedd o ryw ddeng mlynedd yn ôl.

“Hwyrach fod o wedi dyblu, hwyrach fod o’n £60,000 rŵan.

“Eto, beth yw hynny pan mae’n dod i arian ar brosiectau eraill?

“Hwyrach wnân nhw benderfynu ar y gost.

“Dw i jest yn gobeithio y gwnân nhw wthio ymlaen yn y diwedd.”

Beth yn union yw’r alwad?

Felly beth hoffai Elfed Wyn ap Elwyn ei gyflawni drwy’r ddeiseb hon?

“Fy amcan i ydi, yn gyntaf, fod llinell rhwng Afon Wen a Bangor yn cael ei ailsefydlu, oherwydd fysa fo’n cysylltu llinell Pwllheli efo llinell Bangor,” meddai.

“[Byddai’n] cysylltu rhan fawr o’r gogledd.

“Hefyd, ailagor llinell Aberystwyth i Gaerfyrddin, adfer llinell o Gaerwen i Amlwch, fysa chdi’n gallu cael llinell trên fysa’n mynd o Amlwch i Gaerdydd.”

Pe bai rhwydwaith trenau gorllewinol Cymreig, meddai, byddai modd teithio o fewn Cymru a chwtogi ar yr oriau mawr i deithio o un lle i’r llall heb orfod teithio trwy Loegr.

“[Mae] cael trên o Fangor i Aberystwyth yn bedair i saith awr,” meddai.

“O fynd o Fangor i Gaerdydd, neu Aberystwyth i Gaerdydd, mae rhan fawr o dy ddiwrnod wedi mynd.

“Mae’n golygu bo chdi’n gorfod newid trenau dwy neu dair o weithiau.”

Angen astudiaethau dichonolrwydd

Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn galw astudiaeth dichonolrwydd, ond hefyd am astudiaeth sgôp fyddai’n edrych ar y gost a’r buddion economaidd.

Dywed fod angen ateb pob cwestiwn mae angen ateb iddyn nhw ynglŷn â’r rheilffordd.

Mae astudiaeth o’r fath wedi cael ei gwneud yn Aberystwyth a Chaerfyrddin eisoes, meddai, a hynny ers dechrau’r ymgyrch yn 2013.

“Byddai rhaid cysylltu gyda’r cynghorau i edrych be’ ydi’r potensial, ac os ydi o’n cyd-fynd gyda pholisïau’r cynghorau,” meddai.

“Mae angen cael Llywodraeth Cymru i weithredu yn ogystal â San Steffan.”

Dywed ei fod yn disgwyl y byddai’r cyllid yn gyfuniad o arian gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Yn ôl y ffigurau, mae Cymru wedi cael ei thanseilio efo’r arian sydd fod dod mewn efo rheilffyrdd ni,” meddai.

“Mae yna ganran o’r rheilffyrdd yng Nghymru, ond dydyn ni ddim yn cael canran gyfatebol o’r arian amdanyn nhw.

“Mae £5bn fod ar gael i Gymru.”

Yn ôl ffigurau’r gorffennol, meddai, byddai trên sydd yn ailgysylltu’r llinellau rhwng Afon Wen a Bangor, a Chaerfyrddin ac Aberystwyth, yn costio rhwng £900,000 a £1m.

Byddai’n codi ychydig yn fwy eto efo chwyddiant, meddai.

Gwelliannau

Yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn, mae’r sefyllfa’n edrych yn obeithiol iawn ar hyn o bryd, ond byddai angen gwneud gwelliannau i’r llinell yn gyffredinol yn gyntaf.

“Dim ond 20% o’r gyllideb rydan ni fod cael fysa hynny,” meddai.

“Be’ ydi £900,000 i filiwn pan wyt ti’n edrych ar yr holl arian sydd wedi cael ei wario efo HS2?

“Mae yna drenau sy’n cysylltu Llundain yn barod.

“Fysa trên sy’n cysylltu Bangor i Gaerdydd yn y gorllewin yn rywbeth chwyldroadol i gymunedau Cymru ac i’n pentrefi bach a chymdeithasau ni.

“Fysa fo’n creu hwb economaidd mawr.

“Fysa fo’n cysylltu’r hen bentrefi yma oedd yn arfer bod mor glos pan oedd y rheilffyrdd yna eisoes.”

Rheilffordd i gysylltu’r de a’r gogledd?

Catrin Lewis

“Ewch yn ôl 60 o flynyddoedd, roedd pobol yn teithio’n syth o’r Cymoedd, Caerdydd a Chasnewydd i Butlins ar bwys Pwllheli mewn un trên”

Taith gerdded o Fangor i Gaerdydd mewn ymgyrch i ailagor y llinell drên rhwng gogledd a de Cymru

Lowri Larsen

Mae’r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn gobeithio codi ymwybyddiaeth i’r fenter