Mae cynghorydd sir yng Ngwynedd yn bwriadu cerdded o Fangor i Gaerdydd dros 10 diwrnod ddiwedd y mis fel rhan o ymgyrch i ailagor y llinell drên rhwng gogledd a de Cymru.

Mae Elfed Wyn ap Elwyn, cynghorydd Plaid Cymru tros ardal Bowydd a Rhiw, yn galw am rwydwaith trenau Gorllewinol Cymreig fel na fydd yn rhaid i deithwyr yng Nghymru deithio trwy Loegr na chymryd rhai oriau i deithio o un lle i’r llall.

Dywed Elfed Wyn ap Elwyn ei fod eisiau gweld rheilffordd rhwng Afon Wen a Bangor, ac ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac o Gaerwen i Amlwch, fel y byddai llinell yn rhedeg o Amlwch yn y gogledd i Gaerdydd yn y de.

“Fy amcan i ydi fod, yn gyntaf, llinell rhwng Afon Wen a Bangor yn cael ei ailsefydlu, oherwydd fysa fo’n cysylltu llinell Pwllheli efo llinell Bangor,” meddai wrth golwg360. “Byddai’n cysylltu rhan fawr o’r gogledd.

“Hefyd, ailagor llinell Aberystwyth i Gaerfyrddin, adfer llinell o Gaerwen i Amlwch, fysa chdi’n gallu cael llinell trên fysa’n mynd o Amlwch i Gaerdydd.”

Dywed, pe bai rhwydwaith trenau Gorllewinol Cymreig, fyddai dim rhaid mynd trwy Loegr na chymryd oriau i gyrraedd llefydd eraill yng Nghymru.

“[Mae] cael trên o Fangor i Aberystwyth yn bedair i saith awr. O fynd o Fangor i Gaerdydd, neu Aberystwyth i Gaerdydd, mae rhan fawr o dy ddiwrnod wedi mynd.

“Mae’n golygu bo chdi’n gorfod newid trenau dwy neu dair o weithiau.”

Y daith gerdded

Bydd y daith gerdded yn digwydd dros 10 diwrnod hyd at 27 Medi.

Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn gobeithio cwrdd â phobol eraill yn ystod y daith ac aros yn eu tai.

“Dw i’n meddwl gwneith o gymryd 10 diwrnod i mi wneud o’n iawn,” meddai.

“Dw i ddim eisiau rhuthro fo. Mae’n rhywbeth dw i’n gwneud yn amser fy hun.

“Mae 10 diwrnod am fod yn fwy na digon i gyrraedd Caerdydd dw i’n gobeithio.

“Byddai’n gorfod cerdded o leiaf 20-25 milltir y diwrnod ffordd yna.

“Mae genna’i dipyn o bobol yn ymuno efo fi mewn rhai llefydd.

“Dw i’n aros yn nhai pobol ar y ffordd lawr hefyd.

“Dw i’n edrych ymlaen at wneud y daith ac yn ddiolchgar i bawb sy’n gefnogol.

“Bydd gan Traws Linc Cymru tracker ohona’ i’n cerdded o’r gogledd i’r de felly mae pobol yn gallu dilyn fi wrth i fi gerdded.

“Mae croeso iddyn nhw gyfarfod a fi pan maen nhw’n gweld fi a dod am sgwrs ac ati ar y siwrne.”

Deiseb

 Hyd yn hyn mae 11,440 wedi arwyddo’r ddeiseb yn galw am ailagor y llinell drên rhwng gogledd a de Cymru. Bydd yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor deisebau ar 27 Medi pan fydd y daith gerdded yn dod i ben.

“Fy mwriad yw cerdded er mwyn tynnu sylw pobol y wlad at y mater yma.

“Pan dwi’n tynnu sylw ato fo cawn ni weld sut mae pethau’n datblygu o fan’na.”