Mae pedwar prosiect ynni morol gwyrdd wedi cael eu contractio yng Nghymru er mwyn darparu dros 22 megawat o gapasiti llif llanw.

Daw hyn yn dilyn ocsiwn ynni adnewyddadwy Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd y trydan yn cael ei ddarparu ar gyfer y Grid Cenedlaethol a caiff y capasiti llif llanw sydd wedi ei gontractio ei ddefnyddio ym Mharth Arddangos Llanw Morlais ar Ynys Môn.

Mae’r prosiectau a dderbyniodd y sêl bendith yn cynnwys y prosiect Hydrowing a fydd yn darparu 10 megawat, Verdant a fydd yn darparu 4.9 megawat, Mor Energy a fydd yn darparu 4.5 megawat a Magallanes fydd yn darparu 3 megawat o drydan.

Yn ystod yr ocsiwn, derbyniodd 93 o brosiectau a oedd gyda chaniatâd cynllunio yn barod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gontract.

Y bwriad yw gweithio tuag at dargedau carbon sero net y llywodraeth.

Cyfle i Gymru “gymryd y llwyfan”

Mae Tom Hill, Rheolwr Rhaglen Ynni Morol Cymru, wedi croesawu’r newyddion.

“Mae hyn yn newyddion hynod gyffrous i sector ynni adnewyddadwy alltraeth y Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd ac yn gam sylweddol ymlaen i dechnoleg llif llanw,” meddai.

“Mae’r contractau hyn yn hanfodol, gan helpu i gyflymu’r diwydiant drwy ddarparu llwybr i fasnacheiddio i ddatblygwyr, ac yn y pen draw arwain y Deyrnas Unedig i ddyfodol carbon isel, diogel o ran ynni.

“Cytunodd y prosiectau ar bris streic o £198/MWh, sy’n ganlyniad gwych ac yn rhoi hyder mawr ei angen i ddatblygwyr.”

Dywedodd bod y cyhoeddiad yn dod ag “optimistiaeth ar gyfer dyfodol ynni llanw yng Nghymru.”

“Mae’n hanfodol nawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi technolegau llif llanw a’r sector ynni adnewyddadwy, gan sicrhau nad yw Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu gadael ar ôl,” meddai. 

“Rydym am weld mwy o gymhellion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygwyr ynni morol ddefnyddio cadwyni cyflenwi Cymreig lleol, a fydd yn ei dro yn creu swyddi medrus â chyflogau uchel ac yn gwneud y mwyaf o fanteision economaidd y diwydiant hynod bwysig hwn.

“Mae gan ynni adnewyddadwy morol rôl hollbwysig i’w chwarae os ydym am lwyddo i ddatgarboneiddio’r sector ynni a chyflawni Sero Net erbyn 2050, ac mae gan Gymru’r potensial i gymryd y llwyfan.”