Mae cynlluniau wedi cael eu cynnig i godi fferm wynt mewn ardal o Bowys lle na fyddai’n bosib dosbarthu’r trydan heb godi peilonau ac is-orsaf newydd.
Mae Bute Energy yn bwriadu codi 25 o dyrbinau gwynt ym Mharc Ynni Llyn Lort, fyddai’n cael ei leoli i’r de-orllewin o bentref Llanerfyl ac i’r gorllewin o Gefn Coch.
Ar hyn o bryd, does gan y Grid Cenedlaethol ddim seilwaith yn yr ardal i gasglu a dosbarthu’r trydan fyddai’n cael ei gynhyrchu.
Mae’r cais yn cynnwys cynlluniau gan Green GEN Cymru i adeiladu is-orsaf a chysylltu’r parc ynni gyda pheilonau a lein uwchben y ddaear yn Nyffryn Efyrnwy.
Byddai hwnnw wedyn yn cael ei gysylltu â’r prif gysylltiad yn yr Amwythig.
‘Peri pryder’
Mae’r cwmni wedi dechrau ar ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau ar gyfer Llyn Lort, ac mae gwleidyddion Trefaldwyn yn annog pobol i gyfrannu atyn nhw.
“Ein pryder ni yw bod y grid yn gweithio ar gapasiti llawn yn barod,” meddai Craig Williams, Aelod Seneddol Ceidwadol Trefaldwyn.
“Mae diwydiannu’r dirwedd gyda pheilonau mawr yn igam-ogamu eu ffordd ar hyd ein bryniau a’n dyffrynnoedd yn peri pryder.
“Mae’n bryder mawr i nifer o bobol ledled Canolbarth Cymru, a byddaf yn cyfarfod gyda’r grŵp Trefaldwyn yn Erbyn Peilonau i drafod y camau nesaf.
“Mae cynlluniau Bute Energy ar gyfer cysylltu â’r grid yn cyfeirio’n benodol at gysylltiadau uwchben y ddaear yn hytrach nag o dan ddaear.
“Pan fo cwmnïau ynni’n cyflwyno cynlluniau fel hyn, mae hi’n gwbl hanfodol bod cymunedau’n dweud eu dweud am yr effaith ar drigolion lleol, yr amgylchedd, y dirwedd a’r dreftadaeth, ynghyd â’r cynlluniau technegol ar gyfer cysylltu â’r grid.
“Pan fo cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt mawr wedi dod i’r fei o’r blaen, mae Trefaldwyn wedi dweud eu barn yn glir ac yn uchel.
“Byddwn yn annog pawb i wneud yr un fath nawr a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.”