Mae cynllun peilot i rannu ceir trydan wedi cael ei lansio mewn un rhan o Sir Gaerfyrddin.
Nod y cynllun yn ardal Dinefwr yw helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd.
Mae Clwb Ceir Dinefwr yn un o nifer o glybiau ceir fydd yn cael eu lansio fel rhan o brosiect TrydaNi, rhwydwaith o glybiau ceir trydan ledled Cymru.
Bydd y ceir trydan ar gael i bawb rhwng 25 a 70 oed sydd â thrwydded yrru lân, a gall pobol dros 70 oed wneud cais hefyd, ond mae angen iddyn nhw ddarparu mwy o wybodaeth.
‘Lleihau tanwydd ffosil a chostau’
Mae Clwb Ceir Dinefwr yn cael cefnogaeth gan Ynni Sir Gâr, grŵp ynni cymunedol yn Sir Gaerfyrddin sy’n helpu cymunedau i ddatgarboneiddio.
Dywed Sioned Haf, y cydlynydd lleol, mai’r “ffordd orau” o fynd i’r afael â newid hinsawdd yw drwy fentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned.
“Drwy ymuno â Chlwb Ceir Dinefwr rydych yn ymuno ag ymgyrch ehangach i gefnogi system ynni di-garbon, ac yn cefnogi model arloesol o gyd-berchnogi ceir, lleihau tanwydd ffosil a chostau cludiant,” meddai.
Y nod yw fod y clybiau ceir yn gwneud i bobol ailfeddwl am berchnogaeth ceir, a sut maen nhw’n teithio.
Mae ymchwil gan COMO UK yn dangos nad yw 20% o aelodau clybiau ceir presennol yn gallu fforddio bod yn berchen ar gar, a bod y clwb yn rhoi mynediad iddyn nhw at gerbyd.
Fe fydd gofyn i bobol dalu am ddefnyddio’r ceir yn ardal Dinefwr.